Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Myfyrwyr ledled y fwrdeistref sirol yn dathlu canlyniadau Safon Uwch

Mae dosbarth 2022 yn dathlu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ddisgyblion gyflawni canlyniadau Safon Uwch ac UG arbennig eto eleni.

Nid yw'r blynyddoedd diwethaf o ddysgu wedi bod yn hawdd i ddysgwyr, gan fod y pandemig wedi effeithio ar astudiaethau, gyda nifer o fyfyrwyr wedi gorfod ymgymryd â gwahanol ddulliau o ddysgu wrth baratoi at yr arholiadau.

Mae nifer o gyflawniadau a llwyddiannau unigol wedi bod mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol heddiw, gyda nifer o ddisgyblion yn cael eu derbyn i'w prifysgol dewis cyntaf ac eraill yn dechrau ar eu taith yn y byd gwaith, yn dechrau ar brentisiaeth neu'n parhau â'u hastudiaethau yn y coleg.

Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu llwyddiannau yn ogystal â diolch i'r athrawon, staff cymorth, llywodraethwyr a rhieni am y cymorth a'r ymroddiad maent wedi'i ddangos.

Nid oes modd gwadu bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol ar gyfer dysgwyr a dylent fod yn falch iawn o'u hunain am gyflawni graddau mor arbennig, rwy'n dymuno'r gorau i'r holl ddisgyblion ledled y fwrdeistref sirol, pa bynnag lwybr maent yn ei ddewis nesaf.

Y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd Hannah Castle, Pennaeth Ysgol Gyfun Cynffig: “Mae staff Ysgol Gyfun Cynffig yn hynod falch o ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau Lefel A.

“Drwy ddyfalbarhad ac ymroddiad llwyr, mae myfyrwyr Cynffig wedi llywio drwy system arholi unigryw a heriau addysgiadol anodd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rydym wedi gwirioni ar ran y myfyrwyr a’u teuluoedd. Pleser yw gweld myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, ond mae gweld hynny eleni yn fwy gwerth chweil na’r arfer yn ystod y cyfnod heb ei debyg hwn gyda chynifer yn cyflawni graddau A* - C. Bydd y canlyniadau hyn yn golygu bod cymaint ohonynt yn symud ymlaen ar eu llwybrau dewisol, a thestun balchder o’r mwyaf i ni yw ein bod wedi arwain a chefnogi ein myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y Chweched Dosbarth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Pleser yw gweld bod disgyblion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont r Ogwr wedi gwneud mor dda yn arholiadau Safon Uwch ac UG eleni, gyda nifer yn cyflawni canlyniadau ardderchog yn sicrhau lle yn eu prifysgol dewis cyntaf.

"I'r rheiny ohonoch na lwyddodd i gyflawni'r graddau roeddech chi'n eu disgwyl heddiw, peidiwch â phoeni, mae digon o gyfleoedd eraill ar gael i chi."

Os nad ydych chi wedi llwyddo i gael y canlyniadau roeddech chi wedi gobeithio amdanynt a’ch bod yn ansicr ynghylch y dyfodol, peidiwch â phoeni, mae digonedd o opsiynau ar gael:

  • Siaradwch â'ch ysgol a all gynnig cyngor a chymorth ichi ynghylch pa opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Ewch i wefan Gyrfa Cymru, lle mae digon o adnoddau ar gael i'ch helpu chi.
  • Cymerwch gipolwg ar rai o'r swyddi gwag presennol ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Ystyriwch brentisiaeth lle gallwch weithio ochr yn ochr â phobl broffesiynol yn y diwydiant, ennill cyflog a datblygu eich sgiliau – ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

Chwilio A i Y