'Mae llesiant disgyblion wrth wraidd Ysgol Gynradd Afon-y-Felin' yn ôl adroddiad arolwg diweddar
Poster information
Posted on: Dydd Llun 05 Rhagfyr 2022
Mae Ysgol Gynradd Afon-y-Felin yng Ngogledd Corneli wedi'i chanmol gan Estyn, y corff arolygu ysgolion, am greu amgylcheddau gweithio cadarnhaol ar gyfer disgyblion a staff.
Canfu arolygwyr bod llesiant disgyblion wrth wraidd gwaith yr ysgol, gyda disgyblion yn dweud wrth arolygwyr bod yr ysgol yn rhywle gofalgar a heddychlon, lle maent yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn gallu siarad â staff pe baent yn poeni neu'n teimlo'n bryderus.
Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio bod nifer o'r disgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud defnydd da o'r ystod eang o'r profiadau dysgu sydd ar gael ac yn gwneud cynnydd da yn y rhan fwyaf o feysydd dysgu.
Canfuwyd bod gan y disgyblion gymhelliant da i ddysgu a'u bod yn frwd dros gydweithio ar bynciau diddorol. Maent yn mwynhau helpu arweinwyr i wneud penderfyniadau am wella eu hysgol ac maent yn falch o'r newidiadau pwysig maent wedi'u gwneud.
Roedd y tîm arwain hefyd yn cael eu canmol am greu ysbryd tîm da ymysg staff, sy'n llwyddo i gefnogi llesiant disgyblion.
Dywedodd arolygwyr bod arweinwyr wedi ffurfio partneriaethau gwaith agos gyda nifer o asiantaethau allanol, wedi ennill hyder rhieni a sefydlu ystod o ddulliau effeithiol i nodi'r ddarpariaeth gywir fel bod disgyblion yn gallu cyflwyno'r canlyniadau gorau posibl.
Yn ôl yr arfer, mae Estyn wedi cynnwys nifer o argymhellion i'r ysgol ganolbwyntio arnynt, a bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â'r argymhellion hyn drwy ei chynllun datblygu ysgol.
Dylai pawb yn Ysgol Gynradd Afon-y-Felin fod yn falch iawn o'r adroddiad cadarnhaol hwn gan Estyn, ac mae'n galonogol darllen bod disgyblion yn gweld yr ysgol fel rhywle gofalgar a heddychlon, lle maent yn teimlo'n gyfforddus i siarad â staff am unrhyw bryderon neu boenau.
Mae hefyd yn newyddion da bod cynnydd cadarn dysg y disgyblion wedi'i gydnabod, ac rwy'n sicr y byddai'r ysgol yn mynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd ac yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: