Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwyddiant i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ym maes parcio Neuadd Bowls ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Llwyddodd y bartneriaeth i ddod i’r brig yn y categori ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwobrau cyntaf Cymunedau Mwy Diogel Cymru – arwydd o waith caled yr holl bartneriaid.

Mae timau Diogelwch Cymunedol, Parcio, Cefnogi Cwsmeriaid a Chymunedau/Teledu Cylch Cyfyng a Chymorth Ieuenctid y Cyngor wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu De Cymru i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y maes parcio trwy roi mesurau newydd ar waith, megis:

  • Goleuadau gwell
  • Danfon taflenni i annog pobl i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gosod teledu cylch cyfyng parhaol yn y maes parcio
  • Paentio celfyddyd stryd ar y waliau er mwyn gwneud i bobl deimlo’n ddiogel a gwneud yr ardal yn fwy dymunol
  • Gosod platiau llif ychwanegol wrth yr allanfa er mwyn atal cerbydau rhag mynd i mewn i’r maes parcio ar ôl i’r fynedfa gau
  • Erbyn hyn, caiff yr ardal ei defnyddio i gynnal gweithdai ffitrwydd a gweithgareddau i bobl ifanc
  • Mae’r tîm Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig wedi bod yn ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnig cymorth iddynt er mwyn eu tywys oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae aelodau’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, yr Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Dyma newyddion gwych, ac mae’n dangos bod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n ddiogel yn ein cymunedau lleol.

Rydym wedi cael adborth gwych ynglŷn â llawer o’r mesurau newydd ac rydw i’n gwybod bod nifer o breswylwyr wrth eu bodd gyda’r gelfyddyd stryd newydd ar hyd a lled ein bwrdeistref. Mae diogelwch yn eithriadol o bwysig, felly gwych o beth yw clywed bod y bartneriaeth wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith hollbwysig a gwerth chweil.

Medd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Llesiant:

Yn ôl Gareth Newman, Arolygydd Plismona yn y Gymdogaeth: “Hoffwn ategu’r cydgyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom o ran mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae a wnelo hyn â chael yr heddlu a phartneriaid i weithio gyda’i gilydd er mwyn helpu’r bobl hynny y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith niweidiol ar eu bywydau.

“Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith andwyol ar bobl a chymunedau a gall fygwth agweddau sylfaenol ar fywyd bob dydd. Ddylai neb deimlo’n ofnus, dan fygythiad neu’n anniogel yn eu cymunedau eu hunain, ac mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hollbwysig o ran sicrhau na fydd y rhai sy’n ymddwyn yn y fath fodd yn achosi rhagor o ofid neu ddioddefaint yn ein cymunedau.

“Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith nad mater plismona yw ymddygiad gwrthgymdeithasol; y peth pwysig yw gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael ag ef. Mae lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ym maes parcio Neuadd Bowls yn enghraifft wych o hyn – trwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi cael effaith gadarnhaol, gan wella’r amgylchedd lleol ac ansawdd bywydau’r preswylwyr. Ond nid yw’r gwaith wedi’i gwblhau, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y fan hon ac mewn lleoliadau eraill ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”

Chwilio A i Y