Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybr teithio llesol o Ynysawdre ar y gweill

Gyda chymorth gan gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghymru, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau gwaith cyn hir ar lwybr teithio llesol o Ynysawdre (a welir mewn coch ar y map).  Bydd y llwybr hwn yn cysylltu dau bwynt sydd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith teithio llesol, yn ogystal â darparu man cychwyn ar gyfer llwybr arfaethedig ar gyfer y dyfodol a fydd yn parhau tua’r dwyrain heibio’r Afon Ogwr.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros gyfnod o tua 18 wythnos, a bydd yn dechrau ar ddydd Llun 16 Hydref.   Mae’r llwybr 430m o hyd wedi’i leoli yn Ynysawdre, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n rhedeg drwy ardal a oedd gynt yn cynnwys coetir ac ardal wedi gordyfu, ac mae’n dod i ben ar ffin ogleddol Ysgol Gynradd Brynmenyn ac ochr ddwyreiniol Coleg Cymunedol y Dderwen.

Mae gallu parhau i ehangu ein llwybrau teithio llesol ar draws y fwrdeistref sirol yn beth cyffrous iawn, gan alluogi preswylwyr i gael mwy o opsiynau teithio. Mae darparu llwybrau teithio llesol yn sicrhau bod pobl yn gallu teithio’n gynaliadwy ac yn ddiogel – drwy feicio neu gerdded – yn rhydd rhag traffig.

Mae argaeledd y llwybrau hyn yn siŵr o gael effaith gadarnhaol ar ein targed sero net, ar yr heriau ariannol sy’n wynebu ein preswylwyr, ac ar lesiant meddyliol a chorfforol y rheiny sy’n byw yn yr ardal.

Er bod y gwaith yn sicr o amharu rhywfaint ar bobl dros yr wythnosau hyn, mi wnawn ein gorau i leihau unrhyw anghyfleustra posibl. Braf iawn fydd cael profi'r buddion a ddaw yn sgil y llwybr newydd hwn, gan roi’r cyfle i ddatblygu’r rhwydwaith llwybrau teithio llesol ymhellach yn y dyfodol.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y