Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo swyddi arlwyo mewn ysgolion

Mae’r cyngor wedi lansio ymgyrch recriwtio newydd i hyrwyddo nifer o swyddi sydd ar gael yn ei Wasanaeth Arlwyo.

Wrth i’r cyngor barhau i gyflwyno’r fenter Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ar hyd a lled y fwrdeistref sirol, mae ychwaneg o rolau ar gael yn y gwasanaeth.

I ategu’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i ddisgyblion meithrin amser llawn, a disgyblion Blynyddoedd 1, 2 a 3, mae’r cyngor yn chwilio am Gynorthwywyr Cegin Cyffredinol, Cogyddion Cynorthwyol a Chogyddion i ymuno â’r gwasanaeth wrth i’r fenter gael ei hymestyn i ddisgyblion Blwyddyn 4 ym mis Ebrill 2024, a disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 ym mis Medi 2024.

Cynigir cyfraddau cyflog cystadleuol, megis £11.79 yr awr i Gynorthwywyr Cegin Cyffredinol, ynghyd ag oriau gwaith yn ystod y tymor ysgol yn unig a chynllun pensiwn hael. Hefyd, gall gweithwyr elwa ar gymorth parhaus gan reolwyr, ac fe fydd yna ddigonedd o gyfleoedd i ddilyn hyfforddiant yn y gwaith, felly gallwch astudio wrth ichi weithio ac ennill rhagor o gymwysterau.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am y rolau canlynol:

  • Cogydd – Ysgol Fabanod Bryntirion
  • Cogydd – Ysgol Heronsbridge
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Gynradd West Park
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Uwchradd Archesgob McGrath
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Gynradd Tremaen
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Gynradd Croesty
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-Fai
  • Cogydd Cynorthwyol – Ysgol Gynradd y Garth
  • Cynorthwywyr Cegin Cyffredinol Wrth Gefn – Gwasanaethau Arlwyo

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn a swyddi gwag eraill, edrychwch ar ein gwefan.

Penderfynais weithio dros dro i’r adran prydau ysgol hyd nes y byddai fy mhlant yn hŷn. Sylweddolais yn fuan y gallwn gamu ymlaen i fod yn Gogydd Cynorthwyol neu’n Gogydd, oherwydd roedd y gwasanaeth yn awyddus iawn i ddatblygu staff â photensial. Fe wnes i gamu ymlaen i fod yn Gogydd Cynorthwyol yn Ysgol Heronsbridge, gan fwynhau’r profiad yn fawr am sawl blwyddyn cyn mynd i weithio fel goruchwylydd ardal ac yna fel rheolwr gweithrediadau. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael llawer o hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu, ond yn bwysicach na dim rydw i wedi cael cymorth ac anogaeth. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r tîm rheoli arlwyo wedi datblygu trwy’r gwasanaeth, gyda phob un wedi dechrau fel Cynorthwywyr Cegin Cyffredinol.

Emma Bennett, Rheolwr Gweithredol Arlwyo, â thîm Gwasanaethau Arlwyo’r cyngor 22 o flynyddoedd yn ôl fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol. Meddai

Mae ein staff arlwyo’n hollbwysig o ran darparu’r gwasanaeth hanfodol hwn i blant trwy’r fwrdeistref sirol. Maent wedi ennill gwobrau cenedlaethol sy’n cydnabod eu safonau uchel, ac mae gan y rhan fwyaf o’r ceginau sgôr hylendid 5 seren. Dyma amser gwych i ymuno â’r gwasanaeth, oherwydd mae ein timau’n tyfu a thyfu wrth i’r gwasanaeth gael ei gyflwyno i ddisgyblion. Hefyd, ceir llwybr gyrfa cyffrous i’r rhai sy’n dymuno dechrau gyrfa yn y maes arlwyo, ynghyd â chyfleoedd i gamu ymlaen o fod yn Gynorthwyydd Cegin Cyffredinol i fod yn Gogydd Cynorthwyol neu’n Gogydd. Gan mai yn ystod y tymor ysgol yn unig y bydd yn rhaid gweithio, mae’r swyddi’n ddelfrydol i bobl sydd angen gweithio o gwmpas ymrwymiadau teuluol. Os ydych yn frwd ac yn mwynhau rhyngweithio â phlant yn rheolaidd, rydw i’n eich annog i ymgeisio a chwarae rôl hollbwysig yn y gwasanaeth gwerth chweil hwn.

Yn ôl y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y