Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi gwag yn y gwasanaethau arlwyo

Mae ein gwasanaethau arlwyo yn ehangu - ymunwch â'n tîm!

Mae hi’n amser cyffrous i ddod yn aelod o’n gwasanaethau arlwyo, wrth i ni barhau i gyflwyno’r fenter Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim i 51 ysgol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae plant ysgol gynradd ym Mlwyddyn 1, 2 a 3, yn ogystal â phlant meithrin llawn amser, eisoes wedi elwa o’r cynnig prydau ysgol am ddim, ac mae gennym gyfleoedd gwych ar gyfer cynorthwywyr cegincogyddion cynorthwyol, a cogyddion i ymuno a’n timau wrth i’r gwasanaeth ehangu i gynnwys Blwyddyn 4, 5 a 6, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Mae ein staff yn allweddol i’n gwasanaethau, ac rydym yn falch eu bod wedi eu cydnabod am ddarparu gwasanaeth rhagorol i blant ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys eu ceginau a raddwyd yn 5 seren o ran hylendid, ac ennill gwobrau ledled y wlad.

Pam ymuno â ni?

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i weithio, a gallwn gynnig cyfleoedd gwych i chi ddatblygu eich gyrfa; er enghraifft, pe byddwch yn dechrau gweithio i ni fel cynorthwyydd cegin, gallwn gynnig yr hyfforddiant angenrheidiol i chi ddatblygi i fod yn gogydd cynorthwyol, ac yna’n gogydd.

Mae ein buddion eraill yn cynnwys:

  • tâl cystadleuol
  • cynllun pensiwn staff hael
  • oriau gwaith amrywiol ar gael
  • oriau gwaith yn ystod y tymor ysgol yn unig
  • amgylchedd gwaith gefnogol
  • hyfforddiant yn y swydd

Emma Bennett, Rheolwr Gweithrediadau Arlwyo.

“Dechreuais weithio yn y gwasanaethau arlwyo dros 22 o flynyddoedd yn ôl fel cynorthwyydd cegin cyffredinol. Roedd fy mhlant o oedran ysgol, ac roeddwn i’n gweithio fel cogydd, fodd bynnag nid oedd oriau gwaith y diwydiant lletygarwch yn gyfleus ar gyfer fy nheulu i.

Dechreuais weithio ar gyfer prydau ysgol fel mesur dros dro, nes bod fy mhlant yn hŷn. Ond, sylweddolais yn fuan iawn bod modd i mi ddatblygu i fod yn gogydd cynorthwyol neu gogydd, gan fod y gwasanaeth yn awyddus iawn i ddatblygu staff a oedd gyda photensial. Cefais swydd cogydd yn ysgol Heronsbridge, a mwynheais weithio yno am flynyddoedd, tan i mi gael swydd fel goruchwyliwr ardal ac yna rheolwr gweithrediadau.

Dros flynyddoedd fy nghyflogaeth, rwyf wedi derbyn llawer o hyfforddiant a datblygiad, ond yn bwysicaf oll, cefnogaeth ac anogaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r tîm rheoli arlwyo wedi datblygu drwy'r gwasanaeth, a rheiny oll wedi dechrau eu gyrfaoedd fel cynorthwywyr cegin cyffredinol.”

Ynglŷn â'r swyddi

Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol

£12 yr awr

  • Dyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel a glân i ddisgyblion a staff. Bydd gofyn i chi baratoi byrddau bwyd a chadeiriau, ac mewn rhai ysgolion, weithio ar orsaf â sgrin gyffwrdd

Cogydd Cynorthwyol

£12.59 yr awr

  • Dyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo’r Cogydd i baratoi prydau ysgol a chynorthwyo wrth ddarparu hyfforddiant a threfn i staff y gegin

Cogydd Ysgol Gynradd / Ysgol Uwchradd

£13.69 - £14.17 yr awr / £15.17 - £15.70 yr awr

  • Dyletswyddau yn cynnwys rheoli a chydlynu gweithgareddau dydd i ddydd o fewn cegin newydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei darparu i bob cwsmer, gan fod yn gyfrifol dros gynllunio bwydlenni, rheoli maint prydau, paratoi a choginio o fewn y gegin.

Sut i wneud cais

Os hoffech ymuno â’n gwasanaeth uchelgeisiol, neu os ydych yn awyddus i ddarparu’r gwasanaeth orau bosib, yn frwdfrydig, yn hoff o weithio gyda phlant, neu’n chwilio am swydd sy’n bodloni eich sefyllfa deuluol, byddem yn falch iawn o gael cais gennych!

Ewch i Borth Swyddi'r Cyngor i weld swyddi gwag presennol, ac i wneud cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, a bod gennych gwestiynau, rydym yn awyddus i'w hateb - cysylltwch ag Emma Bennett (Gwasanaeth Arlwyo) ar 01656 815964.

Os ydych yn cael trafferth cwblhau cais, cysylltwch â’n Desg Gymorth Trent ar 01656 643698.

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wrth law i gefnogi preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda’r holl agweddau sy’n ymwneud â chyflogaeth, a gallent eich cynorthwyo i gyflwyno eich cais, a’ch cefnogi i ganfod swydd (yn cynnwys cynnig hyfforddiant, cyngor ac arweiniad).

Mae diogelu plant, pobl ifanc neu oedolion bregus yn un o gyfrifoldebau craidd holl weithwyr y cyngor.

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Chwilio A i Y