Dydd y Cofio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 08 Tachwedd 2022
Ddydd Sul 13 Tachwedd, bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod Dydd y Cofio 2022 gyda gorymdaith drwy strydoedd canol y dref sydd wedi'u cau i gerbydau.
Bydd cynrychiolwyr y Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr, Sefydliadau a Chymdeithasau Dinesig, Cynghorau Tref a Chymuned, ac aelodau'r cyhoedd yn mynychu i gydnabod y coffâd.
Wedi'i drefnu gan gyngor tref Pen-y-bont ar Ogwr, bydd gorymdaith eleni yn dechrau am 10.25am o Stryd Adare (y tu allan i'r hen siop H Samuel, yng nghyffordd Stryd yr Ysgawen), yn troi i'r dde ar Caroline Street cyn mynd ymlaen i'r Gofeb Ryfel yn Dunraven Place.
Rhwng 10:50am ac 11am, cynhelir gwasanaeth coffa gan y Parchedig Rachel Wheeler. Am 11am, cenir y Caniad Olaf, caiff y baneri eu gostwng, a cheir dau funud o dawelwch.
Yna, caiff torchau eu gosod a chlywir yr anthemau cenedlaethol cyn i'r Parchedig Rachel Wheeler gloi'r digwyddiad. Wedyn, ceir gorymdaith yn ôl drwy ganol y dref.
Am y manylion llawn ac amserlen yr orymdaith, ewch i wefan y cyngor.
Ymhlith digwyddiadau Cofio eraill sy’n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae:
- Caerau – Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 13 Tachwedd am 9.45am yn Eglwys Sant Cynfelyn, Cymmer Road, Caerau, ac yna gwasanaeth ger y gofeb ryfel yn y pentref ar Sgwâr Caerau am 10.55am.
- Cefn Cribwr - cynhelir Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 13 Tachwedd am 10am yn Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd, Cefn Cribwr ac yna gwasanaeth ger cofeb ryfel y pentref ar Dir Comin Mynydd Bach am 10.55am.
- Mynydd Cynffig - Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 13 Tachwedd, yn Eglwys Sant Theadore am 10am ac yna gwasanaeth ger y Senotaff am 10.45am.
- Llangynwyd - Gwasanaeth Coffa a gosod torch ddydd Gwener 11 Tachwedd am 10.30am yn Neuadd Bentref Llangynwyd.
- Maesteg - Gwasanaeth Coffa a Gorymdaith ddydd Sul 13 Tachwedd, yn dechrau am 9.30am.
- Nant-y-moel - Gwasanaeth Coffa ddydd Sul 13 Tachwedd, am 10.50am yn Sgwâr Pricetown. Yn cynnwys rhestr anrhydedd, y Caniad Olaf, Gweithgaredd Cofio a gosod torchau.
- Pencoed – Cynhelir Gwasanaeth Coffa ger y Senotaff am 10.45am.
- Porthcawl - Gwasanaeth Coffa'r Cadoediad, ddydd Sul 13 Tachwedd, yn dechrau am 10.30am yn Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl.
Ceir rhagor o fanylion ynghylch y digwyddiadau Cofio hyn ar wefan y cyngor.
Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan o'r digwyddiadau Cofio cenedlaethol ac yn rhoi cyfle i breswylwyr lleol fyfyrio ar gyfraniad milwyr Prydeinig a’r Gymanwlad a dinasyddion a atebodd y galw yn ystod y ddau Ryfel Byd, a gwrthdaro diweddarach.
Mae'r gorymdeithiau a'r gwasanaethau Coffa, sydd wedi'u trefnu gan ein cynghorau tref a chymuned, yn gyfle i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ym mhob gwrthdaro ers hynny.
Mae ein dyled yn fawr i aelodau ein lluoedd arfog a fu farw yn gwasanaethu ein gwlad, dros ein rhyddid ni.
Anrhydeddwn bob un sydd wedi gwirfoddoli, gwasanaethu, brwydro, ac yn enwedig y dynion a'r merched sydd wedi gwneud yr aberth fwyaf ar ein cyfer ni, a byddwn yn parhau i’w parchu, eu hanrhydeddu a'u cofio nhw.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Cysylltwch â'r cyngor tref a chymuned perthnasol os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y digwyddiadau Cofio