Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Draenogod iach ar fin cael eu rhyddhau mewn gwarchodfeydd natur lleol

Gan weithio mewn partneriaeth ag Achub Draenogod Morgannwg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng nghanol y dasg o benderfynu pa warchodfeydd natur lleol sy’n addas ar gyfer rhyddhau draenogod yn ddiogel.

Caiff y gwarchodfeydd natur eu hasesu ar sail ansawdd, amrywiaeth, maint a diogelwch y cynefinoedd sydd ynddynt. Cyn y gellir rhyddhau unrhyw ddraenogod yn unrhyw un o’r safleoedd hyn, bydd yn rhaid sicrhau eu bod yn rhydd o glefydau, yn ffit ac yn iach.  Byddant hefyd wedi cael eu hachub yn wreiddiol o'r ardal sy'n amgylchynu'r warchodfa. 

Mae’r bartneriaeth hon rhwng y cyngor ac Achub Draenogod Morgannwg yn rhan o Brosiect Rhwydwaith Natur Cwm Taf.

Ariennir y fenter hon gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW), sy’n cwmpasu rhanbarth Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

Un o brif nodau Rhwydwaith Natur Cwm Taf yw datblygu, adfywio a gwella hygyrchedd i 20 o fannau gwyrdd ledled y rhanbarth hwn.

Mae Gwarchodfa Natur Frog Pond Wood wedi cael ei hasesu eisoes ac ystyrir ei bod yn addas fel safle i ryddhau draenogod.

Gyda chymorth ariannol gan Rwydwaith Natur Cwm Taf, mae prosiect dysgu cynnar eisoes ar waith yma – mae meithrinfa leol yn cymryd rhan mewn prosiect i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o ddraenogod.

Ein gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn parhau i ymledu ei fanteision addysgol, yn enwedig o ran codi ymwybyddiaeth o gadwraeth draenogod a rhoi gwybod i bobl beth i’w wneud pe baent yn dod ar draws draenog.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Natur Cwm Taf.


I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu draenogod, edrychwch ar wefan Achub Draenogod Morgannwg

Chwilio A i Y