Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn cael ei henwebu am Wobr Cydraddoldeb

Mae'r Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr Ron Todd am Gydraddoldeb gan fwy nag 11 o sefydliadau neu unigolion.

Bydd y gwobrau'n cael eu cyflwyno yn ystod Darlith Goffa Ron Todd, a gynhelir yn Marx Memorial and Workers’ School yn Llundain ar 11 Mawrth, sy'n nodi beth fyddai wedi bod yn ddyddiad ei ben blwydd yn 96 oed. 

Roedd yr Arweinydd Undeb Llafur yn Lloegr, Ron Todd, yn ymladd am gydraddoldeb cymdeithasol - bwriad sy'n sail i holl waith Sefydliad Ron Todd.

Mae'r Ddarlith Goffa yn dathlu gwaith y bobl sy'n cyfrannu at greu tegwch cymdeithasol i bawb ac mae'n addo bod yn ddigwyddiad proffil uchel gyda siaradwyr yn cynnwys Ian Hodson o Undeb y Pobyddion a Roger McKenzie, ysgrifennydd cyffredinol Liberation.

Mae'n fraint o'r mwyaf cael f'enwebu ar gyfer y wobr hon. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar f'ymrwymiad i gydraddoldeb cymdeithasol; mae hynny wrth wraidd popeth a wnaf.

Rwyf mor ddiolchgar bod fy nghyfraniad i'r achos yn cael ei gydnabod wrth i mi gael f'enwebu ar gyfer Gwobr Cydraddoldeb Ron Todd.

Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Chwilio A i Y