Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datganiad: Dim cynlluniau i ail-ddatblygu tir yng nghaeau chwarae Ffordd Felindre

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gadarnhau nad oes cynlluniau i werthu unrhyw ran o’r tir yng nghaeau chwarae Ffordd Felindre ym Mhencoed, ac nid oes cynlluniau i adeiladu ar y tir ychwaith.

Er yr hanesion ar-lein, nid oes cynigion ar hyn o bryd i ail-ddatblygu Ysgol Gyfun Pencoed a phetai cynlluniau yn codi yn y dyfodol, byddant yn amodol ar ganiatâd gan y Cabinet ac yn destun ymgynghoriad statudol.

Chwilio A i Y