Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cytuno i fabwysiadu cynllun datblygu newydd ar gyfer y fwrdeistref sirol

Yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor yn gynharach yr wythnos hon, mae’r aelodau wedi cytuno’n unfrydol i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

CDLl newydd Pen-y-bont ar Ogwr yw’r uwchgynllun strategol ar gyfer y fwrdeistref sirol, a fydd yn sail i benderfyniadau yn ymwneud â chynllunio defnydd tir. Mae’n gosod allan y polisïau a’r dyraniadau defnydd tir allweddol a fydd yn siapio dyfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn arwain y datblygiadau hyd at 2033.

Mae mabwysiadu'r CDLl newydd yn nodi'r cam olaf yn y broses gymeradwyo glasbrint cynllunio ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cymryd pum mlynedd i’w gynhyrchu ac sy’n gannoedd lawer o dudalennau o hyd. Datblygwyd y cynllun yn dilyn cryn dipyn o ymchwil, casglu tystiolaeth ac ymgynghori cyhoeddus helaeth, a oedd yn ystyried barn mwy na 1,200 o sylwadau gan bobl leol.

Cyflwynwyd y CDLl newydd i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) (yr Arolygiaeth Gynllunio yn ffurfiol) i'w harchwilio'n annibynnol. Yn dilynproses archwilio drylwyr a chadarn, gyda chyfres o sesiynau gwrandawiad cyhoeddus ar sail pwnc yn digwydd rhwng 28 Chwefror a 29 Mawrth 2023, ystyriodd yr Arolygydd yn briodol yr holl sylwadau a wnaed hyd at, ac yn ystod, y sesiynau gwrandawiad.

Mae’r cynllun diwygiedig a ddilynodd yn cynnwys newid i’r dyraniad tir ym Mharc Afon Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr a oedd, cyn hyn, wedi’i glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl – mae hwn bellach wedi ei ollwng oherwydd cyfyngiadau risg llifogydd sylweddol.

Fe wnaeth diddymu’r dyraniad hwn arwain at beth pryder y byddai prinder yn y cyflenwad tai dros y cyfnod y cynllun, ac felly, mae tir ar Gyn-Safle Cooper Standard, Heol Ewenni, Maesteg wedi ei ail-ddynodi ar gyfer datblygu tai.

Mae'r CDLl newydd yn ymgorffori nifer o safleoedd datblygu ym Mhorthcawl, y Pîl, Pencoed, Island Farm a thir i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â safleoedd a nodir yn uwchgynllun canol y dref.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cynnig sicrhau bod digon o dir ar gael i gefnogi cynnydd disgwyliedig yn y boblogaeth, i ddatblygu 7,500 o swyddi newydd ac i adeiladu 7,575 o dai newydd, gan gynnwys 1,700 o dai fforddiadwy, y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u hadeiladu.

Mae’r Cynllun Datblygu hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer isadeiledd cymdeithasol a chymunedol gan gynnwys pum ysgol gynradd newydd, datblygiadau trafnidiaeth megis cyfleusterau parcio a theithio ym Mhorthcawl, a gorsaf drenau bosib ym Mracla, cyfleusterau parcio a theithio mwy / newydd yn y Pîl, Heol Ewenni, Maesteg a Phencoed, a phont ffordd newydd dros yr orsaf drenau ym Mhencoed.

Mae datblygiadau allweddol eraill yn cynnwys sefydlu cylch osgoi newydd a gwasanaethau trenau bob hanner awr i Faesteg, a gwelliannau i ffordd fysys yng nghymoedd Llynfi, Cwm Ogwr a Garw, rhwng Porthcawl a Chorneli, a rhwng y Pîl, Abercynffig a Phencoed.

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio: “Mae penderfyniad y Cyngor heddiw i fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn newyddion cadarnhaol iawn i'r fwrdeistref sirol.     Mae'n golygu y gallwn yn awr fabwysiadu dull strategol wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl, masnachol a hamdden a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu bodloni’r galw yn y dyfodol rhwng nawr a 2033, tra ein bod hefyd yn annog cyflogaeth a buddsoddiad newydd.

“Bydd CDLl newydd Pen-y-bont ar Ogwr syn sicrhau bod ceisiadau gan ddatblygwyr yn cael eu hystyried mewn ffordd sydd wedi’i rheoli a’i chydlynu a bydd caniatâd cynllunio ond yn cael eu rhoi pan fydd meini prawf penodol, cadarn yn cael eu cwrdd. Ar ben hynny, rhagwelir y gallai amcangyfrif o £116m o fuddsoddiad posibl gan y sector preifat gael ei ysgogi i gefnogi gwelliannau seilwaith ychwanegol fel ffyrdd, ysgolion, hamdden, mannau agored, cyfleusterau cymunedol a mwy, fel rhan o ddatblygiadau'r dyfodol.

“Bydd y cynllun hefyd yn sicrhau ein bod yn cwrdd â’r galw mawr am dai fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol, gyda ffigwr presennol o 2,575 o geisiadau ar y Cofrestr Tai Cyffredin yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, rydym angen sicrhau cydbwysedd cywir o ddyraniadau datblygiad rhwng y ddarpariaeth fasnachol a thai.

“Hoffwn ddiolch i swyddogion cynllunio a datblygu yn yr awdurdod am eu gwaith caled yn sicrhau bod yr uwchgynllun hwn wedi’i ddwyn ynghyd. Bydd yn gyffrous i weld sut fydd y cynllun yn helpu i siapio’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y fwrdeistref sirol dros y naw mlynedd nesaf.”

Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol newydd ar wefan y Cyngor.

Chwilio A i Y