Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn werthoedd craidd yn Ysgol Gynradd Llangrallo

Mewn arolwg Estyn diweddar, canmolwyd Ysgol Gynradd Llangrallo am annog y dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth dda o bwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r adroddiad Estyn yn tynnu sylw at sut mae'r ysgol yn cynnal ethos cadarn o barch a goddefgarwch, gyda disgwyliadau uchel oedolion o ymddygiad yn sicrhau bod disgyblion yn ystyried ei gilydd.

Yn ogystal â hynny, mae’r adroddiad yn cydnabod y ddarpariaeth cwricwlwm cyfoethog ac amrywiol sy’n llwyddo i ymgysylltu dysgwyr yn yr ysgol, gyda rhaglenni cymorth a ariennir ar waith i helpu disgyblion i wneud gwell cynnydd.

Mae cymuned glos, gynhwysol a hapus yr ysgol yn dyst i arweinyddiaeth ymrwymedig y pennaeth Sue Hurry, sy’n arwain yn ôl esiampl yn ôl y sôn, ac y mae ei gweledigaeth yn meithrin llesiant pawb yn yr ysgol. 

Dywedodd y Pennaeth, Sue Hurry: “Mae staff, llywodraethwyr a chymuned ehangach Ysgol Gynradd Llangrallo ar ben eu digon bod Estyn yn cydnabod ein bod yn ysgol gynhwysol a bywiog, sy’n blaenoriaethu llesiant pawb.

“Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm cyfoethog a diddorol i’n disgyblion, ac mae'n wych bod yr adroddiad yn adlewyrchu hyn. Rwy’n hynod falch o’r plant, staff a chymuned yr ysgol gyfan.  Mae'r adroddiad hwn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad pawb.

Mae hwn yn adroddiad arolwg Estyn arbennig. Pan fo plant yn dysgu am bwysigrwydd cynwysoldeb a chydraddoldeb, mae’n argoeli’n dda ar gyfer cymdeithas y dyfodol - cymdeithas sy’n sicrhau bod pawb yn cael eu parchu a’u trin yn deg. Da iawn, Ysgol Gynradd Llangrallo, rydych yn paratoi’r ffordd at well dyfodol.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Llun: Llywodraethwyr ysgol – Mr. B. Bishop (Cadeirydd) Mr. P. Smith (Is-gadeirydd) a Mrs. N. Sutton

Chwilio A i Y