Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwmnïau bws lleol yn cyhoeddi newidiadau i’w gwasanaethau bws

Bydd gweithredwyr bws ar draws Cymru yn cyhoeddi addasiadau cofrestredig i rai o’r gwasanaethau y gallant eu cynnig, yn bennaf oherwydd y newidiadau yn y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru.

Daeth Llywodraeth Cymru â’i chronfa ‘Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau’ i ben ym mis Gorffennaf. Yna, daeth ‘Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau’, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf ac a fydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2024.  Mae’r gronfa bontio yno i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth bws sydd eisoes yn bodoli’n cael ei chynnal, fel bod gwasanaethau hanfodol yn parhau ar draws y rhwydwaith.

Bydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau bws sy’n gweithredu o fewn y fwrdeistref sirol yn parhau’r un fath. Fodd bynnag, mae’r gwasanaethau bws a restrir isod wedi’u cofrestru ar gyfer eu newid neu eu canslo:

  • Gwasanaeth Rhif 70 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gymer drwy Garth a Maesteg) – wedi’i leihau i bob awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, o 24.07.2023.
  • Gwasanaeth Rhif 71 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gymer drwy Lwydarth a Maesteg) – newid yn amseroedd y gwasanaeth o 24.07.2023.
  • Gwasanaeth Rhif 172 (Aberdâr i Ben-y-bont ar Ogwr) – ddim yn teithio i Borthcawl o 30.07.2023, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
  • Gwasanaeth Rhif 404 (Pontypridd i Ben-y-bont ar Ogwr) – ddim yn teithio i Borthcawl o 24.07.2023, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
  • Gwasanaeth Rhif 265 (Cefn Cribwr i Ysgol Gyfun Porthcawl, dyddiau ac amseroedd ysgol) – mae hwn wedi ei ganslo, ac ar gael am y tro olaf ar 21.07.2023.

Dywedodd Stagecoach, un o’r darparwyr gwasanaeth bws lleol yn y fwrdeistref sirol: “Bydd newid i amseroedd y rhan fwyaf o wasanaethau er mwyn gwella dibynadwyedd y gwasanaethau, er y bydd rhai gwasanaethau’n newid i adlewyrchu gwahanol batrymau teithio yn dilyn y pandemig a galw gan gwsmeriaid.”

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau i hyrwyddo teithio ar fws - gan ei gwneud yn system cludiant cyhoeddus hyfyw a chynaliadwy yn y fwrdeistref sirol o Ebrill 2024.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddatblygu model ariannu cynaliadwy, tymor hwy sy’n pontio’r gwagle i fasnachfreinio.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y