Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canolfan ailgylchu newydd sbon yn agor ei drysau i'r cyhoedd.

Bydd miloedd o gartrefi yn gallu ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff yn fuan iawn, pan fydd y ganolfan ailgylchu gymunedol newydd hirddisgwyliedig yn agor yn Y Pîl.

Wedi ei lleoli ar Ystad Ddiwydiannol Village Farm bydd y ganolfan newydd £2.3M yn agor ei drysau i'r cyhoedd ddydd Iau 14 Mawrth yn lle'r ganolfan ailgylchu bresennol yn Llandudwg.

Bydd cynllun lefel gwahân y ganolfan yn ei gwneud hi'n haws i yrwyr gael mynediad iddi, gyda system un ffordd, rampiau a lonydd goddiweddyd yn eu lle er mwyn sicrhau bod pethau'n cadw i symud ar y safle.

Mae lle i hyd at 24 o gerbydau ar yr un pryd ddefnyddio'r cyfleusterau helaeth yma, gyda chapasiti ciwio ar y safle ar gyfer 72 o geir ychwanegol.

Mae cynlluniau yn eu lle hefyd ar gyfer siop ailddefnyddio, lle gall eitemau i'r cartref sydd mewn cyflwr da gael eu gwerthu ymlaen.

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi agoriad y ganolfan ailgylchu gymunedol hir ddisgwyliedig hon. Er bod ambell beth megis oedi gyda rheoliadau, mae yna lawer o gynnwrf ac edrych ymlaen wedi bod o fewn y gymuned, yn arbennig felly mewn ysgolion lleol.

Byddwn yn cynnal diwrnod agor yn swyddogol ddiwedd Ebrill a bydd yn arddangos y posteri arobryn o Ysgolion Cynradd Afon Y Felin, Mynydd Cynffig a'r Pîl wnaeth gymryd rhan mewn gweithdai gwastraff ac ailgylchu yn ein tîm Addysg a Gorfodi yn 2023. Bydd ADA Recycling hefyd yn mynychu er mwyn cynnal gweithdai cyfranogi ar y safle ar gyfer disgyblion ysgol lleol.

Wedi agor y safle byddwn yn cynyddu ein gallu i brosesu deunyddiau ailgylchadwy yn y fwrdeistref sirol yn sylweddol, gan ein helpu i gyfrannu at system rheoli gwastraff mwy cynaliadwy.

y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mae amserau a dyddiau agor ar gyfer y ganolfan ailgylchu newydd i'w gweld isod, ac mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau i'w cael ar ein gwefan.

  • Dydd Mercher i ddydd Llun, 9am hyd 4pm

Hysbysir preswylwyr y bydd y ganolfan ailgylchu gymunedol yn Llandudwg ar gau i baratoi ar gyfer agor canolfan y Pîl ar y dyddiau canlynol:  

  • Dydd Mawrth 12 Mawrth
  • Dydd Mercher 13 Mawrth

Bydd y ganolfan yn cau'n barhaol o 4pm ar ddydd Llun 11 Mawrth.

Bydd y ganolfan ailgylchu gymunedol ym Maesteg yn parhau ar agor ar ddydd Mawrth 12 a dydd Mercher 13 Mawrth, a bydd y ganolfan ailgylchu gymunedol ym Mrynmenyn yn parhau ar agor ar ddydd Mawrth 12 Mawrth.

Mae dyddiau ac amserau agor ar gyfer yr holl ganolfannau ailgylchu cymunedol i'w gweld ar ein gwefan.

Chwilio A i Y