Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad terfyn cyflymder 20mya

Mae deddfwriaeth newydd gan Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol rhagosodedig yn lleihau o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o 17 Medi 2023.

Mae amcanion Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 fel a ganlyn:

  • Lleihau nifer yr anafiadau ar y rhwydwaith ffyrdd.
  • Amgylchedd gwell a mwy diogel sy’n annog mwy o bobl i feicio a cherdded ynghyd â llai o lygredd sŵn.
  • Lleihau cyflymder cerbydau yn ein cymunedau.

 

Eithriadau arfaethedig

Rydym wedi amlygu rhannau o ffyrdd yn y cynlluniau isod sydd ar hyn o bryd yn destun terfyn cyflymder 30mya. O'u hasesu yn erbyn meini prawf ar gyfer eithriadau i'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, ystyrir eu bod yn bodloni'r meini prawf, a chynigir eu bod yn aros ar 30mya drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.

Cynigion ar gyfer eithriadau i 20mya adolygiad o ganlyniadau'r arolwg (.PDF, 1.02 MB)

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Chwilio A i Y