Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar y polisi trwyddedu

Dyma’r amcanion trwyddedu:

  • atal troseddu ac anhrefn
  • atal niwsans cyhoeddus
  • hybu diogelwch y cyhoedd
  • amddiffyn plant rhag niwed

Efallai y bydd niwsans neu anhrefn difrifol y tu allan i eiddo mewn ardaloedd lle ceir nifer, math neu ddwysedd uchel neu eithriadol o eiddo trwyddedig. Hefyd gall dwyseddau mawr o eiddo effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sbwriel a niwsans cyhoeddus. Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i ni gynnal polisi arbennig yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r cynnig hwn. Nid yw Heddlu De Cymru wedi gofyn i ni newid y strydoedd sy’n dod o dan y polisi cyfredol.

Os caiff ei fabwysiadu, mae gan yr asesiad effaith cronnol newydd botensial i effeithio ar ddyfarnu trwyddedau newydd ar gyfer y canlynol:

  • tafarndai
  • bwytai
  • lleoliadau adloniant
  • lleoliadau diwylliannol
  • clybiau nos
  • tecawês bwyd hwyr y nos
  • siopau gwerthu alcohol
  • eiddo clwb

Ni fydd yn berthnasol i Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro.

Amserlen yr ymgynghoriad
Gweithgaredd Dyddiad
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion.  17 Mehefin 2019 tan 8 Medi 2019
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. 22 Hydref 2019
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. Hydref 2019

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:

Cyswllt

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.

Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y