Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar y gyllideb 2022

Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr

Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses pennu cyllidebau, mae’r cyngor yn ymgynghori gyda’r cyhoedd i ganfod eu barn ar beth ddylai fod yn feysydd o flaenoriaeth yn eu barn nhw wrth ddyranu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ac i archwilio’r farn honno yn erbyn cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Mae trefnu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 yn fwy ansicr nag erioed. Yn ogystal ag effaith barhaus pandemig covid-19, a'r gwrthdaro yn Wcráin a'r effaith ychwanegol mae hyn yn ei gael ar ynni a phrisiau eraill yn fyd-eang, a bydd yr argyfwng costau byw presennol yn cael effaith sylweddol ar gostau cyffredinol y cyngor.

Bydd y cyngor y wynebu her ariannol na welwyd ei thebyg dros y blynyddoedd nesaf, sy’n amcangyfrif bwlch hyd at £20m yn ystod y cyfnod ariannol 2023-2024.

Mae'r Cyngor yn wynebu mwy o bwysau o ran costau wrth fynd ymlaen nas gwelwyd yn y blynyddoedd diweddar, a bydd yn debygol yn mynd yn fwy heriol parhau i ddarparu’r un lefel o wasanaethau wrth ddarparu’r un lefel o wasanaethau wrth geisio parhau i gynorthwyo aelodau hŷn a mwyaf bregus ein cymdeithas.

Mae’r Cyngor yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau busnesau hanfodol. Roedd y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 yn llawer gwella na'r disgwyl, ond mae'r rhagolygon ar gyfer 2023/24 a thu hwnt yn llai ffafriol, yn enwedig wrth i amgylchiadau economaidd waethygu'n ddifrifol dros y misoedd diwethaf.

Teimlir y pwysau Costau Byw mae’r holl breswylwyr yn eu profi gan y Cyngor hefyd. I gefnogi gwasanaethau wrth symud ymlaen bydd rhaid i’r Cyngor ystyried cynyddu’r Dreth Gyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf a bydd eich mewnbwn i’r arolwg hwn yn cynorthwyo i ddarganfod gwasanaethau mwyaf gwerthfawr y Cyngor a’r rhai y dylem barhau i’w cyllido.

Rydym yn ceisio gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn 'Addas ar gyfer y Dyfodol' ac i’n cynorthwyo i wneud hyn, rydym angen deall eich barn a’ch blaenoriaethau.

Mae'r arolwg yn ymdrin â'r meysydd canlynol;

  • Blaenoriaethu gwasanaethau'r cyngor
  • Lefelau'r Dreth Gyngor
  • Sut mae’r cyngor wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf
  • Beth ddylai ein blaenoriaethau’r dyfodol fod
  • Digitaleiddio gwasanaethau'r cyngor

Dweud eich dweud

I ddweud eich dweud, llenwch ffurflen ymgynghori ar-lein

Dyddiad cau: 22 Ionawr 2023

Fel arall, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01656 643218 – rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun – Dydd Gwener.
Cyfeiriad: Ymgynghori ac Ymgysylltiad, Swyddfeydd Dinesig,, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Ydych chi wedi ystyried ymuno â Phanel Dinasyddion y Cyngor?

Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys grŵp o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymgynghorir yn rheolaidd â hwy am y gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan y cyngor.

Gall aelodau’r panel dderbyn hyd at dri arolwg y flwyddyn ar amrywiaeth o bynciau,  gwasanaethau a materion, yn ogystal â derbyn cylchlythyrau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Chwilio A i Y