Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arolwg Ymgysylltu â Busnesau

Fel rhan o'r Tasglu Economaidd sydd newydd ei sefydlu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn arwain ar Raglen Ymgysylltu â Busnesau.

Gofynnir i fusnesau ar draws y fwrdeistref sirol gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn ein helpu i asesu effaith Covid-19 a’r DU yn gadael yr UE ar yr economi leol.

Am yr arolwg hwn

Mae Tasglu Economaidd Pen-y-bont ar Ogwr eisiau deall y prif faterion mae busnesau'n eu hwynebu yn y sefyllfa bresennol, eu dyheadau ar gyfer y dyfodol a syniadau am feysydd cefnogi posibl wrth symud ymlaen.

Bydd yr Arolwg Ymgysylltu â Busnesau’n rhoi sylw i’r meysydd canlynol:  

  • amdanoch chi
  • statws masnachu eich busnes
  • eich staff
  • cyllid, hyfforddiant a chefnogaeth busnes
  • gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)
  • y dyfodol

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Y camau nesaf

Defnyddir canfyddiadau'r arolwg hwn i ddatblygu cynllun economaidd. Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu i helpu busnesau i addasu i'r newid yn y tirlun economaidd.

Bydd yn gwneud y canlynol:

  • helpu busnesau i addasu i'r newid yn y tirlun economaidd
  • cefnogi busnesau i adfer o bandemig y coronafeirws
  • gwella gwydnwch
  • darparu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant, sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â busnesau newydd

Cysylltu

Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y