Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trawsgrifiad fideo recriwtio gofal cartref

Ystyried gyrfa newydd yn y gwasanaeth cymorth yn y cartref?

Lewis: 'Cyn gweithio ym maes gofal, gweithiais am bedair blynedd ym maes manwerthu, gweithiais i fyny i swydd Rheolwr Siop Cynorthwyol cyn cael fy niswyddo ac yna ffansio newid fy llwybr gyrfa.'

Nigel: 'Roeddwn i’n labrwr/crefftwr yn gweithio i gwmni adeiladu mawr.'

Karen: 'I ddechrau roeddwn yn wniadwraig, cwrddais â fy ngŵr, priodi a chael tri o blant. Roedd fy nghyfnither yn gweithio ym maes ‘cymorth yn y cartref’ yn y dyddiau hynny ac roedd angen help arni yn y pentref, ac felly rwyf wedi bod yn gweithio ym maes gofal cartref, am y 28 mlynedd diwethaf.'

Nigel: 'Penderfynais fynd i mewn i'r proffesiwn gofalu oherwydd bod fy ngwraig wedi bod yn ei wneud ers bron i 30 mlynedd, ac roedd hi bob amser yn dweud wrtha i y byddwn i'n dda yn y gwaith. Roedd yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud, ond doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn ei wneud. Un diwrnod, gwelais hysbyseb. Es amdani ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny!'

Lewis: 'Aeth aelod o’r teulu, yn agos iawn ataf yn sâl iawn, roeddem yn ofalwyr uniongyrchol iddi, yn ddi-dâl ac yna’n amlwg fe wnes i ddatblygu angerdd bryd hynny dros helpu eraill felly penderfynais ei wneud fel swydd gyflogedig.'

Nigel: 'Roedd gennyf rywfaint o brofiad, roeddwn wedi gofalu am fy niweddar fam ac wedi rhoi gofal rhan-amser i fy mrawd, ar wahân i hynny nid oeddwn erioed wedi bod mewn swydd yn ymwneud â gofalu.'

Karen: 'Roeddwn i'n arfer helpu i edrych ar ôl hen ŵr bonheddig, felly roedd gen i ychydig bach o brofiad o’r maes, ond rydych chi'n cael hyfforddiant yn y swydd.'

Nigel: 'Pan ddechreuais gyntaf cefais gynnig hyfforddiant ac rwyf wedi gwneud cryn dipyn o hyfforddiant dros y 18 mis diwethaf o gyflogaeth.'

Lewis: 'Rwyf wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, codi a chario, gofalu am gathetr stoma, hyfforddiant dementia, cynllun gofal ychwanegol a phethau felly, gweithio mewn cartrefi ac mewn lleoliadau annibynnol.
Mae yna gymaint o hyfforddiant y gallwch ei wneud ac mae’n hyfforddiant parhaus.'

Nigel: 'Felly ie, mae yna hyfforddiant ar gael...'

Lewis: 'Mae yna gefnogaeth anhygoel gan eich cydweithwyr yn ogystal â rheolwyr, sy'n eich helpu i fynd ymlaen at bethau mwy a gwell.'

Nigel: 'Yn fy marn i rydych angen bod yn berson...sy’n cyd-dynnu’n dda â phobl ac yn gallu dangos iddyn nhw'r math o berson ydych chi hefyd. '

Karen: 'Mae'n rhaid i chi fod yn onest, mae'n rhaid i chi fod yn ddibynadwy, mae'n rhaid i chi drin pobl yn y ffordd rydych chi am gael eich trin eich hun a rhaid i chi fod yn ddymunol ac yn gwrtais.'

Lewis: 'Didrafferth, hyderus, cyfathrebwr da, gofalgar, mae'n dod yn naturiol i'r rhan fwyaf o bobl, os yw gennych, defnyddiwch ef.'

Nigel: 'Yr hyn sy'n rhoi llawer o foddhad i mi yw gweld yr unigolyn yn byw'n annibynnol yn ei gartref ei hun. Cael gwên. ' 

Karen: 'Rwy’n hoffi elfen ofalu’r swydd, rwyf wrth fy modd yn gofalu am bobl. Rwyf wrth fy modd...gwneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn, eu bod nhw’n hapus.'

Lewis: 'Yr hyn rwy’n mwynhau am y swydd hon yw rhoi gwên ar wynebau pobl, gwneud gwahaniaeth i’w bywyd pob dydd.'

Nigel: 'Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau gweithio ym maes gofal yn y cartref, fel fi, yw mynd amdani, byddwch yn bendant yn gweld y gwaith yn werth chweil.'

Karen: 'Ni fyddwn wedi newid y swydd am unrhyw beth dros y 28 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi bod wrth fy modd, rwyf wedi crio a chwerthin...'

Nigel: 'Rwyf wedi bod yn gwneud y gwaith am bron i 18 mis ac wrth fy modd. Mae mynd i’r gwaith yn bleser.'

Lewis: 'Os ydych yn ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol, byddwn i'n dweud wrthych i fynd amdani, dyma'r peth gorau i mi ei wneud erioed, ni fyddwch chi’n edrych yn ôl.'

Chwilio A i Y