Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

Yn dilyn penderfyniad y Tribiwnlys Hawliau Gwybodaeth Haen Gyntaf EA/2018/0033, nid yw'r Awdurdod bellach yn cyhoeddi data ardrethi busnes ar ei dudalen we data agored. Ni fydd bellach yn datgelu gwybodaeth am gyfrifon ardrethi busnes mewn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.

Mae gan yr holl awdurdodau Gynllun Cyhoeddi dan y ddeddf . Mae’r cynllun yn rhestru gwybodaeth a ryddheir yn rheolaidd, a lle y gellir dod o hyd i’r wybodaeth, gyda manylion cyswllt ar gyfer adrannau perthnasol. I wneud cais:

  1. Edrychwch ar y Cynllun Cyhoeddi am wybodaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi. Cyfeiriwn at wybodaeth o’r fath fel ‘busnes fel arfer’, a gallwch gael gafael ar y wybodaeth hon o ble a nodir yn y cynllun.
  2. Os nad yw’r wybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch ofyn amdani. Cofiwch fod modd i chi ofyn am yr ymateb mewn fformat penodol. Er enghraifft, efallai yr hoffech fersiwn electronig neu bapur, ac fel gyda phobl anabl, gall fod gennych hawl i dderbyn fformatau penodol. Os felly, trafodwch eich anghenion gyda’r adran berthnasol yn gyntaf.
  3. Mae’n rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig ar ffurf llythyr neu drwy e-bost i:

Cyswllt

Freedom of Information Office

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad: Lefel 2, Angel Street, Pen-Y-Bont Ar Ogwr, CF31 4WB.

Nodwch yn glir yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gall fod yn wybodaeth gofnodedig o unrhyw fath megis e-byst, llyfrau nodiadau, fideos neu dapiau. Nodwch eich enw a’ch manylion cyswllt. Nid oes angen i chi nodi pam eich bod chi eisiau’r wybodaeth.

4. Fel arfer, mae’n rhaid i ni ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais. Os nad oes modd i ni wneud hyn, byddwn yn nodi pam ac yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl ymateb.

Chwilio A i Y