Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth mewn argyfwng

Mae cymorth amrywiol mewn argyfwng ar gael ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy gydol pandemig parhaus y coronafeirws - Covid-19.

Cam-drin Domestig

Mae’r cymorth cam-drin domestig sy’n cael ei gynnig gan Ystafell Assia Calan DVS yn canolbwyntio yn bennaf ar gyswllt ffôn, gydag apwyntiadau personol yn cael eu cynnal pan mae’n ddiogel gwneud hynny.

Mae’r llety lloches yn parhau, a chymorth ar alwad – gallwch gael help neu gael gwybod mwy drwy ffonio 01656 815919 neu anfon e-bost i assia@calandvs.org.uk.

Hwb Diogelu Amlasiantaeth

Hefyd mae Hwb Diogelu Amlasiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr, neu MASH, yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogelu i blant ac oedolion agored i niwed. Gallwch roi gwybod am bryderon am blentyn ar 01656 642320 neu mashcentra@bridgend.gov.uk. Gellir cyfeirio pryderon am oedolion i 01656 642477 neu adultsafeguardingMASH@bridgend.gov.uk.

Am gyngor am yr ystod helaeth o wasanaethau cefnogi sydd ar gael, gallwch hefyd gysylltu â llywiwr cymunedol MASH Pen-y-bont ar Ogwr ar 07719 546865 neu drwy anfon e-bost i jackieprosser@bavo.org.uk.

Chwilio A i Y