Adrodd materion
Wrth adrodd am broblem i ni, rhowch gynifer o fanylion defnyddiol â phosib, gan gynnwys y dyddiad a’r amser pan sylwoch chi ar y broblem, ei lleoliad, eich enw a’ch rhif ffôn cyswllt yn ystod y dydd. Gallwch adrodd am broblem trwy ddefnyddio’r manylion isod.
Sgamiau brechlynnau Covid-19
Mae nifer o sgamiau brechlynnau Covid-19 ar waith. Cofiwch na fydd y GIG byth yn gofyn am eich manylion banc na thaliad am frechlyn Covid-19.
Gallwch anfon unrhyw negeseuon testun sy'n cynnwys sgam brechlyn Covid-19 ymlaen i 7726. Os byddwch yn derbyn unrhyw negeseuon e-bost ffug gallwch eu hanfon i report@phishing.gov.uk.
Priffyrdd
Gall problemau priffyrdd gynnwys:
- goleuadau stryd
- draeniau wedi’u rhwystro ar dir cyhoeddus
- difrod i ffyrdd a phalmentydd gan gynnwys tyllau yn y ffyrdd
- celfi stryd wedi’u fandaleiddio
- coed, perthi ac ymylon ffyrdd glaswelltog sydd wedi gordyfu
- hawliau tramwy cyhoeddus gan gynnwys llwybrau ceffyl a llwybrau beicio
- gwaith ffordd
- problemau mabwysiadu ffyrdd
Gallwch adrodd am broblemau priffyrdd ar-lein trwy ddefnyddio Fix my Street.
Cludiant
Gall problemau cludiant gynnwys:
- trafnidiaeth gyhoeddus
- diogelwch ar y ffyrdd
- rheoli traffig
- meysydd parcio
Gallwch adrodd am broblemau cludiant trwy e-bostio custcare@bridgend.gov.uk
Ailgylchu a gwastraff
Gallwch adrodd am broblemau ailgylchu a gwastraff trwy ddefnyddio system ar-lein Kier.
Amgylchedd
Gall problemau amgylcheddol gynnwys:
Gallwch adrodd am broblemau amgylcheddol trwy e-bostio cleanupthecounty@bridgend.gov.uk
Rheoli adeiladau
Gall problemau rheoli adeiladau gynnwys:
- adeileddau peryglus
- draeniau a charthffosydd wedi’u rhwystro ar dir preifat
Gallwch adrodd am broblemau rheoli adeiladau trwy e-bostio buildingcontrol@bridgend.gov.uk
Safonau masnach
Gall problemau safonau masnach gynnwys:
- trosedd ar garreg y drws
- gwerthiannau dan oed a nwyddau a gyfyngir gan oed
- rhoi pwysau neu fesur byr o nwyddau a brynir
- cyngor i ddefnyddwyr
- iechyd a lles anifeiliaid
- twyll
- benthyca arian yn anghyfreithlon
Darperir gwasanaethau safonau masnach ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Chaerdydd trwy Wasanaethau Rheoliadol a Rennir. Gallwch adrodd am broblemau safonau masnach ar y wefan Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Iechyd yr amgylchedd
Gall problemau iechyd yr amgylchedd gynnwys:
Darperir gwasanaethau safonau masnach ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Chaerdydd trwy Wasanaethau Rheoliadol a Rennir. Gallwch adrodd am broblemau safonau masnach o ran iechyd yr amgylchedd ar y wefan Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.