Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestru i bleidleisio

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn ystod etholiad yw 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Mae bellach yn bosib i bobl ifanc 14 a 15 oed gofrestru i bleidleisio. Hefyd, mae gan bobl ifanc 16 a 17 oed, yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys, yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyngor lleol erbyn hyn.

Gall pobl ifanc ddargafnod popeth sydd angen iddynt ei wybod am gofrestru a phledleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Manylion sydd eu hangen i gofrestru i bleidleisio

I gofrestr neu newid eich manylion, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw a cyfeiriad
  • rhif yswiriant gwladol
  • dyddiad geni

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y swyddfa etholiadau yn anfon llythyr cadarnhau atoch. Fodd bynnag, os na fydd eich manylion yr un peth â’r rhai sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n bosibl y caiff eich cais ei wrthod. Efallai yr ysgrifennwn atoch i ofyn am ragor o wybodaeth.

Pleidleiswyr eraill

Os ydych yn ddinesydd o’r DU sy’n byw dramor, gallwch wneud cais i fod yn bleidleiswr tramor os:

  • ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf
  • oeddech yn rhy ifanc i bleidleisio pan adawsoch chi’r DU, a bod eich rhieni/gwarcheidwaid wedi cofrestru, cyhyd â’ch bod wedi gadael lai na 15 mlynedd yn ôl

Dim ond am 12 mis y bydd eich cofrestriad fel pleidleisiwr tramor ar waith. Rhaid gwneud cais yn flynyddol, a gallwch ddewis eich dull pleidleisio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol. Dim ond yn etholiadau Seneddol y DU y gall pleidleiswyr tramor bleidleisio.

Gall aelodau o’r lluoedd arfog a’u gwŷr, eu gwragedd neu eu partneriaid sifil bleidleisio fel pleidleiswyr o’r lluoedd arfog neu fel pleidleiswyr arferol.

Chi sydd i benderfynu ar natur eich cofrestriad, a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Gweler rhagor o wybodaeth ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog.

 

Gallwch gofrestru fel gwas i’r Goron neu gyflogai i’r Cyngor Prydeinig os nad ydych yn aelod o’r lluoedd arfog ond yn:

  • cael eich cyflogi gan y Goron neu’r Cyngor Prydeinig mewn swydd y tu allan i’r DU
  • gŵr neu wraig yn byw dramor gyda gwas i’r Goron neu gyflogai i’r Cyngor Prydeinig

Rhaid adnewyddu datganiad o’r math hwn yn flynyddol.

Lawrlwytho’r ffurflen i gofrestru fel gwas i’r Goron neu gyflogai i’r Cyngor Prydeinig.

Gallwch gofrestru i bleidleisio o hyd os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog am eich bod yn:

  • glaf mewn ysbyty iechyd meddwl
  • digartref
  • person sydd wedi’i remandio yn y ddalfa

I wneud hyn, cwblhewch ffurflen gofrestru i bleidleisio i rywun heb gyfeiriad sefydlog neu barhaol.

Gallwch gofrestru i bleidleisio'n ddienw am resymau diogelwch. Mae’n bosibl eich bod yn dianc rhag trais, er enghraifft, neu efallai bod gennych swydd sy'n golygu bod pobl eraill yn risg i chi.

Os byddwch yn cofrestru’n ddienw, bydd cod yn cael ei ychwanegu at y gofrestr etholwyr yn lle eich enw a’ch cyfeiriad.

I gofrestru ar gyfer pleidleisio’n ddienw, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o orchymyn llys neu ardystiad gan berson ag awdurdod.

Lawrlwytho ffurflen gofrestru ar gyfer pleidleisio’n ddienw.

Gwahaniaethau rhwng y gofrestr etholiadol a’r gofrestr agored

Mae’r gofrestr etholiadol yn sicrhau mai dim ond pobl gymwys sy’n gallu pleidleisio. Mae’n rhestru enwau a chyfeiriadau pob pleidleisiwr. Hefyd, gall gael ei defnyddio am resymau awdurdodedig, fel canfod troseddau fel twyll, recriwtio rheithwyr a gwirio ceisiadau credyd.

Mae’r gofrestr agored neu ddiwygiedig yn ddetholiad o’r gofrestr etholiadol. Nid yw’n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau, ond gall gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae busnesu’n ei defnyddio i gadarnhau enwau a chyfeiriadau. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu dileu. Ni fydd dileu eich manylion yn eich atal rhag pleidleisio.

Ymuno â’r gofrestr agored neu ei gadael

Gallwch newid eich dewisiadau unrhyw bryd. Os gwnewch chi hynny, cwblhewch y Ffurflen Cofrestr Agored a'i hanfon i electoral@bridgend.gov.uk.

Cyfeiriad ar gyfer ffurflenni cais pleidlais bost

Os ydych chi’n gwneud cais am bleidleisio drwy’r post gyda fersiwn papur o’r ffurflen, anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad isod.

Cyswllt

Swyddog Cofrestru Etholiadol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad: Gwasanaethau Etholiadol, Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, CF31 4WB.

Gwiriwch i weld ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio

Os ydych chi’n ansicr ynghylch a ydych chi wedi cofrestru, cysylltwch â ni. Sylwer na fydd ychwanegu eich enw at y ffurflen ymholi am y bobl sy’n byw yn eich cartref yn eich cofrestru i bleidleisio. Hefyd os ydych chi wedi cofrestru ar-lein, edrychwch ym mewnflwch eich e-bost neu eich ffolder jync, rhag ofn ein bod ni wedi gofyn i chi am ragor o dystiolaeth.

Cyswllt

Y Swyddfa Etholiadaol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643116

Chwilio A i Y