Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datrys problem gyda chynghorydd

Materion y mae cynghorwyr yn helpu gyda nhw

Caiff cynghorwyr eu hethol yn rhannol i ddatrys problemau dinasyddion. Maent yn:

  • helpu trigolion sydd â phryderon neu ymholiadau
  • parchu anghenion etholwyr
  • pennu polisi’r cyngor, fel grŵp

Er enghraifft, gallent helpu i ddatrys problem yn ymwneud â thai neu drefnu arwydd stryd newydd.

Gwybod pa gynghorydd i gysylltu ag ef

Bydd cynghorydd eich ward yn ymdrin â’ch ymholiadau. Defnyddiwch ein blwch 'Dod o Hyd i Gynghorydd' i weld pwy yw eich cynghorydd, neu ffoniwch ein hadran Gwasanaethau Aelodau ar 01656 643 375.

Dod o hyd i fanylion cyswllt cynghorydd

Gellir cysylltu â chynghorwyr ar y ffôn, drwy lythyr, e-bost neu wyneb yn wyneb, a gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorydd yma. Mae rhai cynghorwyr yn cynnal cymorthfeydd ‘galw heibio’, fel arfer mewn adeiladau cymunedol.

Gallwch ffonio cynghorwyr gartref, hyd yn oed ar benwythnosau

Mae cynghorwyr yn gwybod y gellir cysylltu â nhw drwy gydol yr wythnos a phan fônt gartref. Gan eu bod yn brysur iawn, byddwch yn ymwybodol efallai weithiau na fyddent ar gael dros dro.

Y broses o gael cymorth gan gynghorydd

  1. Bydd cynghorwyr yn cyfeirio eich ymholiad at yr adran berthnasol.
  2. Yna bydd yr adran yn ymchwilio i’r mater, ac yn ymateb i’r cynghorydd.
  3. Ein nod cychwynnol yw ymchwilio ac ymateb i bob ymholiad o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn. Eto, mae hyn yn dibynnu ar y math o broblem, a’r adnoddau sydd ar gael.

Cymorth cyfrinachol

Mae’n rhaid i gynghorwyr gadw materion yn gyfrinachol. Er y bydd yn rhaid iddynt gysylltu â swyddogion y cyngor i ddatrys y rhan fwyaf o ymholiadau, mae ein cyflogeion hefyd yn rhwymedig wrth gymal cyfrinachedd.

Chwilio A i Y