Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar gosbau am droseddau amgylcheddol

Crynodeb

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn y trigolion am y Polisi Gorfodi diwygiedig ar gyfer Rhoi Hysbysiadau Cosb Penodol am Droseddau Amgylcheddol. I sicrhau bod gennym bolisi cadarn i ddelio â gorfodi cosbau am droseddau amgylcheddol, gwnaed penderfyniad i ddiwygio’r polisi gorfodi cyfredol a sefydlwyd yn 2007. Y nod yw gwneud y polisi’n addas i bwrpas a chynnwys deddfwriaeth gyfredol.

Gall Cosbau Penodol ddarparu ffordd effeithiol a gweladwy o ymateb i droseddau amgylcheddol lefel isel fel gollwng sbwriel, baw cŵn, taflu sbwriel yn anghyfreithlon a rhai problemau gwastraff. Gallant ddarparu opsiwn tecach a mwy cost effeithlon o gymharu ag erlyn troseddwyr yn y Llys.

Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.

Mae polisïau gorfodi’n wahanol mewn gwahanol awdurdodau lleol. Yn y gorffennol mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynd ati i addysgu trigolion a rhybuddio troseddwyr, cyn cyflwyno Hysbysiadau Cosb Penodol (HCP). Mae hyn wedi bod yn effeithiol ac mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau wedi cael canlyniadau positif o’u datrys fel hyn.

Mae’r polisi diwygedig:

  • yn cynnwys troseddau cosb ychwanegol, sef:
    • ‘methu cydymffurfio â gorchymyn gwarchod gofod cyhoeddus’
    • ‘methu cydymffurfio â’r ddyletswydd o ofal mewn perthynas â gwastraff tai’
  • yn amlinellu cyfarwyddyd perthnasol i lunio trefniadau gyda chontractwyr/trydydd partïon ar gyfer rhoi HCP
  • yn cynnwys cynllun gostyngiad am daliad cynnar
Llinell amser yr ymgynghoriad
Gweithgaredd Dyddiad
Dyddiad dechrau'r ymgynghoriad 10 Mehefin 2019
Dyddiad gorffen yr ymgynghoriad 1 Medi 2019

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich safbwyntiau drwy lenwi’r canlynol:

Cysylltu

Y Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael ar gais.
Cofiwch fod posib i chi leisio eich barn o hyd am wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y