Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnig i ymgynghori ar bolisi defnydd arfaethedig ar gyfer tacsis

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Dogfennau cysylltiedig

Darlun cyffredinol

Mae rhai awdurdodau trwyddedu ar draws y DU wedi derbyn nifer uchel o geisiadau am drwyddedau Cerbydau Hackney, a cheisiadau am drwyddedau ar y cyd rhwng Cerbydau Hackney a Gyrwyr Llogi Preifat gan ymgeiswyr sydd yn byw mewn awdurdodau lleol gwahanol i’r un maent yn gwneud cais iddo.

Mae’r egwyddor o reolaeth leol yn bwysig a bydd awdurdodau trwyddedu yn gosod eu trefn ei hun i sicrhau eu bod yn cwrdd â’u gofynion statudol i ddarparu gwasanaeth, tra bod hefyd yn gymesur ag amgylchiadau lleol a chynnal fflyd hyfyw oddi mewn i’r awdurdod, gyda’r dealltwriaeth bod cerbydau a gyrwyr yn masnachu yn bennaf o fewn yr ardal honno.

Y cynnig

Bydd y cynnig yn effeithio yn bennaf ar y rhai hynny sydd yn gwneud cais newydd am drwydded cerbyd Hackney; disgwylir i ymgeiswyr brofi bwriad bona fide i chwilio am gyfleoedd i logi oddi mewn i ardal weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dan delerau’r drwydded maent yn cynnig amdani.

Bydd rhagdybiaeth na fydd ymgeiswyr nad ydynt yn bwriadu chwilio am gyfleoedd i logi yn gyfan gwbl neu yn bennaf oddi mewn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn trwydded cerbyd Hackney fydd yn eu hawdurdodi i wneud hyn. Caiff pob cais ei ystyried ar sail rhagoriaeth.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 9 Rhagfyr 2016 and cau ar 9 Ionawr 2017. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol:

Cyswllt:

Adran Trwyddedu a Chofrestru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 029 20871022
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.

Ymgynghoriad

Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.

Amserlen yr ymgynghoriad.
Camau Dyddiad
Dyddiad terfyn ar gyfer ymateb 9 Ionawr 2017
Cyhoeddi’r adroddiad terfynol, trwyddedu 6 Chwefror 2017
Dyddiad gweithredu posibl 14 Mawrth 2017

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y