Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Llangrallo

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Dogfennau cysylltiedig

Darlun cyffredinol

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd eich barn ar y cynnig i wneud newid rheoledig i Ysgol Gynradd Llangrallo drwy ehangu.

Bydd y rhai yr ymgynghorir â hwy yn cynnwys staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni’r ysgol, aelodau o'r gymuned leol ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 6 Medi 2017 ac yn diweddu ar 17 Hydref 2017.

Gellwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach yn y ffyrdd canlynol:

Cyswllt:

Ffôn: 01656 642617

Mae’r amserlen a’r weithdrefn dros dro fel a ganlyn:

Amserlen yr ymgynghoriad.
Gweithgaredd Dyddiad
Cyfnod ymgynghori pan fyddwn yn croesawu eich barn a'ch sylwadau ar y cynnig*. 06 Medi 2017 hyd 17 Hydref 2017
Adroddiad yr Ymgynghoriad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. 31 Hydref 2017
Cyhoeddi Adroddiad yr Ymgynghoriad ar wefan CBS Pen-y-bont ar Ogwr; copïau caled ar gael ar gais. 3 Tachwedd 2017
Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno â’r cynnig, cyhoeddir Hysbysiad Cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig yn ysgrifenedig. 6 Tachwedd 2017
Diwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu ar unwaith p’un ai symud ymlaen ynteu peidio. Os bydd yna unrhyw wrthwynebiad, cyhoeddir Adroddiad Gwrthwynebiadau a’i anfon i'r Cabinet iddynt gael ei ystyried a gwneud penderfyniad yn dilyn hynny. 3 Rhagfyr 2017
Gweithredu posibl. 1 Ionawr 2018

*Noder na fydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i'r cynnig ac na ellir cofrestru gwrthwynebiadau ond ar ôl cyhoeddi'r Hysbysiad Cyhoeddus.

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y