Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marina Porthcawl

Mae'r Marina yn gweithredu 3 awr bob ochr i ddŵr uchel rhwng 0700-2200.

Os hoffech gael mynediad i'r Marina neu ei gadael y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â'r Harbwr Meistr 48 awr ymlaen llaw.

Gellir cysylltu â gweithredwyr y Marina ar sianel VHF 80 a thros y ffôn ar 01656 815715 neu 07580 947347.

Os oes angen cymorth arnoch ar eich angorfa yna cysylltwch â'r Marina Operatives a chaniatáu digon o amser iddynt wneud eu ffordd i'ch angorfa.

Gofynnir i Ddeiliaid Berth roi gwybod i Swyddfa'r Marina am eu cynlluniau hwylio cyffredinol lle bynnag y bo'n bosibl.

Mae hyn yn ddefnyddiol rhag ofn y bydd argyfwng ac mae'n caniatáu i Weithwyr y Marina wneud y defnydd gorau o le o amgylch y Marina i ymwelwyr.

Rhaid i ymwelwyr gofrestru gyda Swyddfa’r Marina ar radio VHF. Wedyn bydd y gweithredwr sydd ar ddyletswydd yn y marina yn neilltuo angorfa addas ar gyfer eu harhosiad. Pan fydd ymwelwyr wedi cyrraedd yr angorfa, gallant gasglu ffob mynediad a thrydan gan weithredwr y marina.

Rheolir y mynediad i’r marina gan un giât hydrolig sy’n cael ei gweithredu gan weithredwyr y marina a’r Harbwrfeistr o ochr y cei.

Cyfradd ymwelwyr 2019/2020 = £2.03 y metr/noson.

I gael mynediad i’r marina:

1. Cysylltwch â Swyddfa’r Marina ar radio VHF (Sianel 80).

2. Dewch at fynedfa’r marina’n ofalus ac aros am ganiatâd gan weithredwyr y marina.

Golau coch: Dim mynediad.

Golau gwyrdd: Symud ymlaen ar gyfarwyddyd y staff gweithredol yn unig.

Mae rhiniog giât y loc ar 3.45m datwm siart ond y mynediad i’r marina yw 4.95m datwm siart. Y rheswm dros hyn yw er mwyn i ni allu cadw digon o ddŵr i dderbyn cychod gyda chêl dyfnach.

Ceir mynediad i’r marina drwy god personol neu ffob electronig sy’n caniatáu mynediad i’r pontŵnau a’r cyfleusterau toiled a chawod. I warchod diogelwch y safle, peidiwch â rhoi’r codau sy’n cael eu rhannu gan staff Gweithredu’r Marina i unrhyw un arall. Er bod gan Farina Porthcawl enw da am ddiogelwch, dylai deiliaid angorfeydd fod yn synhwyrol er mwyn eu gwarchod eu hunain rhag lladrad. Cofiwch roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus i aelod o staff.

Mae mynediad i’r cyfleusterau hyn wedi’i gyfyngu i ddeiliaid angorfeydd, eu gwesteion ac ymwelwyr â’r marina. Maent ar gael bob amser, ac eithrio yn ystod y cyfnodau glanhau dyddiol.

Peidiwch â defnyddio toiled môr eich cwch tra rydych yn yr angorfa yn y marina os yw’n rhyddhau yn syth i’r dŵr.

Mae maes parcio ar gael wrth ymyl yr harbwr am 20 munud, i roi digon o amser i chi ddadlwytho offer a mynd ag ef i’ch cwch. Mae maes parcio sydd ar gael am gyfnod hirach ar gael ar draws y ffordd. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag aelod o staff.

Mae troliau ar gael ar y safle at ddefnydd y deiliaid angorfeydd. Maent ar dop pen y bont ac mae angen darn £1 i’w defnyddio.

Mae bin sbwriel ar dop pen y bont. Gwnewch yn siŵr bod y bin yn cael ei gadw’n lân a thaclus ar gyfer defnyddwyr eraill. Ewch ag unrhyw boteli nwy, batris ac olew o’r safle a chael gwared arnynt yn gywir.

Mae’r marina yn cynnig cyfleuster gwaredu toiled cemegol wrth ymyl y ciosg y mae posib mynd iddo gyda ffob electronig. Nid oes gennym gyfleuster pwmpio allan, mae’r agosaf ym Mae Caerdydd. Siaradwch gyda’r staff am ragor o wybodaeth.

Mae trydan 240 folt/16 amp ar gael ym mwyafrif helaeth yr angorfeydd ar y safle. Ceir cyflenwad trydan i bob bolard drwy system cerdyn talu ymlaen llaw. Gellir casglu cardiau o’r swyddfa am flaendal o £5 a gellir ychwanegu credyd arnynt fesul £5.

Mae dŵr ar gael i’r rhan fwyaf o angorfeydd yn y marina. Os na allwch gyrraedd cyflenwad dŵr, cysylltwch â staff y marina a byddant yn ceisio eich adleoli chi dros dro i gael mynediad at gyflenwad dŵr.

Mae’r marina yn gwrando ar sianel 80 gan ddefnyddio’r arwydd galw ‘Porthcawl Marina’. Dylai cychod sy’n symud yn y marina wrando ar sianel 80 tra maent yn yr angorfa. Ffoniwch Swyddfa’r Marina cyn gadael eich angorfa.

Mae’r llithrfa gyhoeddus ar gael ar gyfer ei defnyddio ar gyfer pobl sydd eisiau lansio gan ddefnyddio trelar. Rhaid dangos prawf o yswiriant ar gyfer indemniad o £3 miliwn yn swyddfa’r marina cyn lansio a thalu ffi. Y ffi yw £8.98 y lansiad neu £140.39 y flwyddyn.

Rhaid i gychod sydd eisiau llenwi gyda thanwydd y tu mewn i’r harbwr fod yn barod am dywallt tanwydd a rhaid iddynt sicrhau nad oes unrhyw danwydd yn mynd i mewn i’r dŵr. Cynghorir defnyddio pwmp tanwydd addas fel seiffon llaw neu ddull tebyg o drosglwyddo tanwydd yn ddiogel. Cyfrifoldeb deiliad yr angorfa yw sicrhau nad oes unrhyw un yn ysmygu gerllaw, ac nad oes unrhyw ffynhonnell arall o danio gerllaw.

Gall deiliaid angorfeydd wneud mân waith atgyweirio ar eu cychod tra maent yn yr angorfa neu’r pontŵn. Fodd bynnag, ni ddylid gwneud unrhyw ‘waith poeth’, er enghraifft weldio neu lyfnu, yn y marina.

Mae croeso i gontractwyr wneud gwaith ar gychod deiliaid angorfeydd, ar yr amod bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cynhwysfawr o £3 miliwn o leiaf. Dylai deiliaid angorfeydd fod yn ymwybodol mai eu hyswiriant hwy fydd yn gyfrifol os bydd difrod i eiddo’r marina, neu anaf. Rhaid i bob contractwr roi gwybod i staff y marina cyn dod i mewn i’r pontŵnau, a sicrhau caniatâd ar gyfer hynny.

Cyswllt

Ffôn: 01656 815715
Cyfeiriad: Swyddfa'r Marina, Yr Harbwr, Porthcawl, CF36 3BY.

Chwilio A i Y