Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei chau ar unwaith

Dydd Mercher 20 Medi 2023

Penderfynwyd bod angen cau’r safle er budd diogelwch y cyhoedd ar ôl i arolwg arbenigol a wnaed gadarnhau y gall fod problem posibl mewn perthynas â defnydd o Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) o fewn to’r strwythur.

Darllenwch y datganiad llawn

Mae’r farchnad draddodiadol hon yn gartref i nifer o fusnesau teuluol hirsefydlog a masnachwyr newydd. Mae mynediad at y Farchnad Dan Do, sydd wedi’i chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar gael drwy Ganolfan Siopa y Rhiw.

Mae mynediad i gerbydau ar gael ar Heol y Frenhines, gyda nwyddau’n cael eu danfon at islawr y llawr gwaelod.

1836 - Pasio Deddf Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr i symud marchnadoedd da byw a marchnadoedd eraill oddi ar y strydoedd o amgylch neuadd y dref.

 

1837 - Neuadd newydd y farchnad yn agor ar Ddiwrnod y Fonesig. Caiff ei hadeiladu gan Iarll Dunraven neu ei gyndadau ar safle’r hen Gyrtiau Tennis, a ddaeth wedyn yn Westy Tennis Court ar Stryd Caroline. Emmaus yw hwn nawr.

 

1906 - Agor neuadd y farchnad newydd dan do i gymryd lle “Neuadd Farchnad Newydd’ 1837.

 

1908 - Cynhelir eisteddfod fawreddog yn neuadd y farchnad ar Ddydd San Steffan.

 

1955 - Cyngor Rhanbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr yn prynu neuadd y farchnad gan Dunraven Estates Cyf.

 

1972 - Neuadd y farchnad ar Stryd Caroline yn cau a’r stondinwyr olaf yn gadael ddiwedd mis Mai 1972. Dymchwel y neuadd ym mis Mehefin 1972 a’r farchnad newydd yn agor yn ei lleoliad presennol ddydd Llun 15 Mai 1972.

 

1996 - Ar 1 Mawrth 1996, ailosod cloch y farchnad, sy’n 130 o flynyddoedd oed, yn ôl yn ei lle. Roedd y gloch wedi bod yn gorwedd mewn canolfan gan y cyngor ers dymchwel yr hen farchnad yn 1972.

 

Gwybodaeth am berchnogion y stondin au ym Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr.
Stondin Enw'r stondin Busnes/gwasanaeth
Stondin 1. Candy Corner Melysion
Stondin 2 i 3. Peter Woods and Sons. Cigydd.
Stondin 4. Memorable Moments Teganau vintage
Stondinau 5. Hair by Michael. Trin gwallt a thyllu clustiau.
Stondin 6. Little Stars Dillad babanod a phlant bach
Stondin 7. Phone Xcellence. Atgyweirio ac ategolion ffonau symudol.
Stondin 8. Toiled cyhoeddus  Toiled cyhoeddus 
Stonin 9. Gwag Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.
Stondinau 10 a 11  The Rhiw Teapot Café. Caffi.
Stondin 12. Wheeleys Cafe Caffi
Stondin 13. Nips and Tucks. Dillad ac addasiadau teiliwr.
Stondin 14.

Gwag.

Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.

Stondin 15. Bakestones. Bara a chacennau ffres.
Stondin 16.

Anifeiliaid Anwes Pen-y-Bont 

Cyflenwadau bwyd anifeiliaid anwes 

Stondin 17.

Gwag.

Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.

Stondin 18

The Kind Human Club

 

Stondin 19 a 20. The Deli on the Counter. Danteithfa.
Stondin 21. Fruit Fayre. Ffrwythau a llysiau.
Stondin 22A. Gwag. Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.
Stondin 22B. Gwag. Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.
Stondin 22C. Cookmate. Offer coginio/gwneud cacennau, bragu cartref ac addurniadau.
Stondin 23. Gwag. Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.
Stondin 24. Gwag. Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth.
Stondin 25. Frock Follies

Dillad vintage  

Stondin 26 a 27.

Cwtchcraft

Siop Wlân a Chyflenwr Ar-lein  

Stondin 28a.

Sandra’s Jewellers

Clociau, oriawrau, atgyweirio, gwasanaethau ac anrhegion.

Stondin 28b.

Candyland

Melysion

Stondin 33. Kats Wax Wick & Wonders  
Stondin 34. Info Tech. Caledwedd cyfrifiadurol a gwasanaeth atgywierio.

 

Gwybodaeth am fasnachu ym Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr.
Nifer y stondinau: 37.
Maint y stondinau: Amrywiol.
Cyson ac achlysurol: Caniateir.
Ffi gwasanaethu: Nac oes.
Gwasanaeth casglu sbwriel: Oes.
Faniau dosbarthu: Mae baeau llwytho yn y seler ar gyfer llwytho a dadlwytho yn unig.

Cyswllt

Ffôn: 01656 659154
Cyfeiriad: Canolfan Siopa Rhiw, Stryd Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3BL.
Oriau agor:
Llun, Mawrth, Iau, Gwener, Sadwrn 9am tan 5pm.
Mercher 9am tan 4.30pm.

Gwneud cais am stondin

I wneud cais am stondin, cwblhewch ffurflen gais ar-lein.

Noder: Bydd angen ichi gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif cyn gwneud cais drwy ein ffurflen ar-lein.

Adran Masnach

Watts a Morgan
Ffôn: 01656 644288 (3)
Cyfeiriad: 1 Stryd Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1BX.
Oriau agor:
Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9am hyd at 5:30pm
Dydd Sadwrn: 9am hyd at 4pm

Chwilio A i Y