Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Problem RAAC yn gorfodi Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr i gau ar unwaith

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw yng nghanol dref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau yn ddiirybudd y prynhawn hwn (ddydd Mercher 20 Medi 2023).

Penderfynwyd bod angen cau’r safle er budd diogelwch y cyhoedd ar ôl i arolwg arbenigol a wnaed bore heddiw gadarnhau y gall fod problem posibl mewn perthynas â defnydd Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) o fewn to’r strwythur.

O ganlyniad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd camau chwim i gau’r farchnad dan do er mwyn cynnal arolygon ac asesiadau manwl pellach, ac er mwyn cytuno ar y camau nesaf.

Mae masnachwyr wedi cael gwybod a bydd y cyngor yn rhannu’r newyddion diweddaraf gyda nhw wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Nid yw cau neuadd y farchnad yn effeithio ar Ganolfan Siopa’r Rhiw gyferbyn, sy’n parhau ar agor yn ôl yr arfer.

Mae’r problemau a allai gael ei achosi gan ddefnydd hanesyddol o RAAC o fewn y diwydiant adeiladu wedi cael cryn sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fel awdurdodau lleol eraill, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn cynnal archwiliadau o'r holl adeiladau a gynhelir gan y cyngor, yn unol â chyngor cenedlaethol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Mae’r broses arolygu wedi blaenoriaethu ysgolion lleol, lle nad oes unrhyw bryder wedi’i nodi. Ar hyn o bryd, mae’r awdurdod ar ganol gwirio safleoedd a seilweithiau eraill, a chynhaliwyd arolwg gweledol o'r farchnad dan do yn gynharach y mis hwn fel rhan o’r broses.

O ganlyniad i hyn gwelwyd bod angen cynnal arolwg mwy manwl gydag arbenigedd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a chafodd yr arolwg hwnnw ei gynnal y bore yma. Mae’r penderfyniad i gau’r farchnad dan do wedi bod yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Mae arolygon pellach yn cael eu trefnu er mwyn deall pa mor ddifrifol yw’r broblem RAAC, a’r goblygiadau hirdymor a all godi. Gan fod y cyngor yn rhentu neuadd y farchnad, mae’r awdurdod hefyd yn cysylltu â’r perchnogion preifat fel mater o frys.

Hyd heddiw, Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yw’r unig safle lle canfuwyd problem bosibl mewn perthynas â RAAC.

Rydym yn cydnabod yr anghyfleustra a’r caledi posibl y gall hyn ei achosi i fasnachwyr, ynghyd ag effaith cau’r farchnad gan ei bod yn lle poblogaidd a phrysur i bobl fynd i siopa, cwrdd a chymdeithasu.

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau wrth galon canol y dref, ac mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y penderfyniad hwn i gau yn achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl.

Rhagor o fanylion i ddod.

Chwilio A i Y