Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Data am nifer yr ymwelwyr â chanol trefi

Mae ‘nifer yr ymwelwyr’, ‘footfall’ yn Saesneg, yn cyfeirio at nifer y cerddwyr mewn lle penodol. Rydym yn defnyddio data a gesglir o dan drwydded gan Springboard i gofnodi nifer y bobl mewn lleoliadau penodol yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.

Mae dulliau cyfrif TST Springboard ar gyfer nifer yr ymwelwyr yn defnyddio technoleg seiliedig ar fideo i ganfod gwrthrychau’n symud drwy ddefnyddio camera fel “llygad” i edrych i lawr ar y stryd. Wrth i bobl basio drwy barth rhithiol maent yn cael eu cofnodi fel rhif mewn ffeil electronig sy’n cynrychioli nifer yr ymwelwyr. Mae’r dulliau cyfrif yn cofnodi nifer yr ymwelwyr yn barhaus ac mae’n cael ei lunio’n adroddiad wythnosol ar gyfer creu crynodeb o’r wybodaeth.

Nifer yr ymwelwyr yw dwysedd y gweithgarwch a does dim un person unigol yn cael ei adnabod nac unrhyw ddata gweledol yn cael eu cadw.

Crynodeb o’r data am nifer yr ymwelwyr â chanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, a Maesteg.
Ardal

Cyfanswm nifer yr ymwelwyr,
yr wythnos yn dechrau 3 Medi 2023

Wythnos ar ôl wythnos

Blwyddyn ar ôl blwyddyn

Pen-y-bont ar Ogwr

91,350

+4%

+1%

Porthcawl 59,500 +9% +13%
Maesteg 28,455 +42% +55%

Am ddadansoddiad dyddiol, gan gynnwys manylion am y tywydd neu ffigurau wythnosol blaenorol, cysylltwch:

Cyswllt

Rheolwr Canol y Dref
Ffôn: 01656 815225

Chwilio A i Y