Llywodraethwyr Ysgol
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o arwain, cefnogi a gwella ysgolion.
Maent yn ddiduedd ac yn gwneud penderfyniadau sy’n ceisio gwella’r ysgol. Drwy wneud hynny, maent yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u dyfodol.
Y prif gategorïau llywodraethwyr ysgol yw:
- Llywodraethwyr cymunedol - caiff y rhain eu penodi gan y Corff Llywodraethu i gynrychioli’r gymuned. Yn ddelfrydol, dylent fyw neu weithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol.
- Llywodraethwyr sy'n rhieni - caiff y rhain eu dewis drwy bleidlais i fod ar y Corff Llywodraethu gan rieni eraill. Maen nhw'n rhieni i blant sy'n mynychu'r ysgol dan sylw.
- Llywodraethwyr yr awdurdod lleol - y llywodraethwyr hyn eu penodi gan yr awdurdod lleol.
- Llywodraethwyr sy'n athrawon a staff - caiff y rhain eu hethol gan aelodau o staff perthnasol o fewn yr ysgol.
Mae mathau eraill o lywodraethwyr ysgol yn dibynnu ar fath a chyfansoddiad ysgol.
Gall nifer y llywodraethwyr ym mhob categori amrywio yn dibynnu ar y math o ysgol ac uchafswm nifer y disgyblion y gall yr ysgol eu lletya.
Dod yn llywodraethwr ysgol
Os byddwch yn dod yn llywodraethwr Ysgol, fe gewch foddhad o ddod yn rhan o dîm sy’n ymgymryd â rôl strategol wrth redeg yr ysgol. Byddwch yn dysgu sgiliau a fydd yn eich helpu mewn rhannau eraill o’ch bywyd ac yn manteisio ar hyfforddiant am ddim.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch i ddod yn llywodraethwr ysgol, ond mae angen i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac mae angen i chi fod â: an interest in our children’s future;
- yr awydd i wneud gwahaniaeth
- amser ac ynni
- parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
- ymrwymiad i weithio mewn tîm
- brwdfrydedd i ofyn cwestiynau, gwrando a dysgu
- y cymhelliant i helpu i lywio dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont Ar Ogwr.
Unwaith y caiff ei benodi, mae tymor swydd llywodraethwr yysgol n para am bedair blynedd.
Bydd disgwyl i chi fynychu tri chyfarfod o'r corff llywodraethu bob blwyddyn, sef un y tymor, a chyfarfodydd pwyllgor, os yn berthnasol.
Ceisiadau ar gyfer rhiant lywodraethwyr
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn rhiant lywodraethwr - Ceir manylion cyswllt ysgolion.
Ceisiadau ar gyfer llywodraethwyr cymunedol
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn lywodraethwr cymunedol, lawrlwythwch ffurflen gais.
Ar ôl ei chwblhau, anfonwch hi i'r ysgol y mae diddordeb gennych ddod yn llywodraethwr arni - Ceir manylion cyswllt ysgolion.
Ceisiadau i fod yn llywodraethwr awdurdod lleol
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn llywodraethwr awdurdod lleol, lawrlwythwch ffurflen gais.
Ar ôl ei chwblhau, anfonwch hi i pupilservices@bridgend.gov.uk
Mae cyfyngiad amser ar leoedd gwag ac, felly, rhaid i unrhyw geisiadau gyrraedd yr awdurdod lleol erbyn y dyddiadau a ddangosir yn y tabl isod.
Bydd gwybodaeth am swyddi gwag a dyddiadau cyflwyno ceisiadau yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.
Hyfforddiant llywodraethwyr
Mae hyfforddiant llywodraethwyr am ddim. Mae'r hyfforddiant yn helpu i wella eich gwybodaeth as yn eich sgiliau, ac yn eich galluogi i gymryd rhan yn effeithiol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu.
Rhaid i lywodraethwyr newydd ddilyn dau gwrs hyfforddiant gorfodol. Cwrs sefydlu yw un, sy’n trafod prif gyfrifoldebau llywodraethwr. Mae'r llall yn ymwneud â deall y data a ddefnyddir mewn ysgolion a sut y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r ysgol.
Mae hyfforddiant hefyd ar gael ar ystod o bynciau perthnasol eraill.
Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol
Ym mhob cyfarfod, mae llywodraethwyr yn ystyried, trafod a gwneud penderfyniadau ar ystod o bynciau, er enghraifft:
- perfformiad disgyblion a’r ysgol yn gyffredinol
- adroddiadau arolygon ysgolion
- cyllidebau
- recriwtio staff
- materion disgyblu
- gwaith cyffredinol o gynnal a chadw adeiladau a thiroedd yr Ysgol.
Ymdrinnir â llawer o faterion gan bwyllgorau'r corff llywodraethu, sydd wedyn yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo gan y corff llywodraethu llawn.
Mae gan bob corff llywodraethu glerc, sy'n trefnu cyfarfodydd ac yn cymryd y cofnodion.