Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arweiniad i wahardd disgyblion

Gellir gwahardd disgybl o ysgol neu Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD):

  • os yw wedi torri polisi ymddygiad yr ysgol yn ddifrifol
  • os yw’n peri risg i addysg neu les dysgwyr eraill

Cyngor Llywodraeth Cymru ar wahardd disgyblion:

Mae dogfen arweiniad Llywodraeth Cymru’n rhoi cyngor ynglŷn â:

  • gwahardd dysgwyr o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion
  • sut i gynnal addysg dysgwyr sydd wedi eu gwahardd
  • sut i apelio yn erbyn gwaharddiad

Mae wedi’i rhannu’n 7 adran, ac mae’r rheiny’n ymdrin â:

  • defnyddio gwaharddiadau
  • y broses a rôl y pennaeth
  • pwyllgorau disgyblu
  • paneli apeliadau
  • materion yr heddlu
  • ailintegreiddio
  • effeithiau ar gyllidebau ysgolion

Pobl sy’n gorfod defnyddio’r arweiniad

O dan Adran 52(4) Deddf Addysg 2002, mae’r rhaid i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ar waharddiadau ac sy’n gweithredu gweithdrefnau neu apeliadau ystyried y cyngor hwn. Mae hynny’n cynnwys:

  • penaethiaid
  • athrawon UCD
  • cyrff llywodraethu
  • awdurdodau lleol
  • paneli apeliadau

Cyswllt

Tîm Cymorth Dysgwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642622

Chwilio A i Y