Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymunedau Carbon Isel

Mae Cymunedau Carbon Isel yn fenter a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i rymuso cymunedau lleol i gynhyrchu a rhannu trydan adnewyddadwy ymysg aelwydydd sy’n cymryd rhan, wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r cyngor yn datblygu prosiect arddangos arloesol sy’n archwilio sut i sefydlu cymunedau carbon isel a chreu marchnadoedd ynni lleol sy’n masnachu mewn ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol er budd trigolion lleol.

Cynllun Pwmp Gwres

Nod y prosiect yw arddangos sut mae modd trawsnewid eich eiddo i fod yn gartref eco-gyfeillgar, cost isel, cyfforddus, gan ddefnyddio’r systemau gwres diweddaraf.

Marchnad Ynni Leol De Corneli

Mae De Corneli wedi’i dewis fel safle’r arddangosiad Cymunedau Carbon Isel cyntaf. Mae perchnogion tai’r pentref yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun peilot.

HyRES

Ar ôl lansio’r prosiect Marchnad Ynni Leol yn llwyddiannus yn Ne Corneli yn 2021, mae’r fenter Cymunedau Carbon Isel yn bwrw ymlaen â cham newydd yn y gwaith o ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir yn lleol i gymryd lle rhywfaint o’r nwy a ddefnyddir ar hyn o bryd i wresogi ein cartrefi ac i goginio ein bwyd.

Fel yn achos gwaith blaenorol yn ymwneud ag awyru solar a systemau Ffotofoltäig, mae ein prosiect newydd yn anelu at barhau â’r egwyddor i ddatgarboneiddio De Corneli trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol.

Chwilio A i Y