Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun Pwmp Gwres

Mae Heat Pump Ready Pen-y-bont ar Ogwr yn fenter newydd ac arloesol sydd â'r nod o ddod â gwres fforddiadwy a gwyrddach i'ch cartref. Mae’n un o naw prosiect sy’n cael eu hariannu ledled y wlad gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i’r potensial ar gyfer Defnydd Dwysedd Uchel o bympiau gwres yn y DU.

Y consortiwm o bedwar cwmni sy’n ymwneud â’r prosiect ac a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Buro Happold, Challoch Energy, Kensa Group a Nuvision Energy Wales.

Mae'r cynllun yn adeiladu ar y meddylfryd diweddaraf mewn Cynllunio Ynni Ardal Leol, gan nodi llwybrau defnydd dichonadwy ar gyfer clystyrau o gartrefi a all gymryd rhan mewn gosodiadau pwmp gwres, i helpu i hwyluso'r newid i dechnolegau gwresogi carbon isel.

Bydd y technolegau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, pympiau gwres ffynhonnell daear, neu bympiau gwres yn gweithio ar system ddolen a rennir. Un agwedd gyffrous ar y prosiect fydd datblygu modelau masnachol newydd a fydd yn lleihau costau gwres er budd perchnogion tai. Bydd y capasiti yn y rhwydwaith grid trydan ar gyfer gosod pympiau gwres, yn ogystal â gwefru cerbydau trydan, yn cael ei asesu hefyd a bydd atebion yn cael eu datblygu i alluogi'r newid.

Pe bai'r astudiaeth ddichonoldeb yn llwyddiannus byddai'r consortiwm wedyn yn ceisio cyllid ychwanegol gan BEIS i gyflwyno Pympiau Gwres o fewn cartrefi yn ardal ddewisol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Sut bydd yn gweithio

Mae'r consortiwm yn chwilio am ardaloedd a allai fod yn addas i leoli pympiau gwres ar raddfa fawr yn y fwrdeistref sirol. Yn allweddol i hyn fydd dod o hyd i niferoedd digonol o “Fabwysiadwyr Cynnar” i ymuno â’r rhaglen.

I ddechrau, bydd y consortiwm yn hysbysebu'r prosiect ac yn cynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth i fesur y diddordeb o fewn y gymuned. Os bydd digon o ddiddordeb yn cael ei greu yn y gymuned, bydd y tîm yn gwneud cais am gyllid ‘Cam 2’ pellach gan BEIS i gefnogi’r gwaith o gyflwyno pympiau gwres yn yr ardal ddewisol.

 

Sut byddwch chi’n elwa

Mae hon yn rhaglen arloesol a thrwy fod yn rhan ohoni, byddwch yn helpu i ddatgarboneiddio eich cymuned i ddechrau ac, os bydd yn llwyddiannus, rhannau eraill o Gymru a’r DU hefyd. Bydd y buddion i chi yn cynnwys y canlynol:

  • Arolwg ynni cartref AM DDIM o'ch cartref
  • Cyngor arbenigol AM DDIM ar uwchraddio eich cartref
  • CYMHORTHDAL ar gyfer gosod system wresogi yn ei lle
  • Datgarboneiddio eich cartref
  • System Gwresogi ac Oeri Gwyrddach Fforddiadwy ar gyfer eich cartref
  • Gwella ansawdd aer yn eich cartref
  • Cynhesu eich cartref ar dymheredd iach
  • Helpu i gefnogi dyfodol gwyrddach drwy ddod â gosod boeleri nwy naturiol i ben yn raddol

Os oes gennych chi ddiddordeb

Mae croeso i unrhyw un ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fynychu'r digwyddiadau a mynegi eich diddordeb yn y rhaglen.

I ddechrau, byddem yn eich croesawu i'n dyddiau agored yng Nghanolfan Gymunedol Gogledd Corneli:

  • 23 Medi, 12pm - 6pm
  • 24 Medi, 3pm - 6pm

Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan a chofrestru eich diddordeb ar y safle.

Fel arall, gallwch gofrestru drwy anfon e-bost at:

simon.minett@challoch-energy.com neu Robert.francis@nuvisionenergywales.co.uk

Chwilio A i Y