Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Treuliwch y Nadolig yng nghanol eich tref

Mae'r Nadolig rownd y gornel ac mae llawer o gynlluniau Nadoligaidd ar y gweill eisoes i ddathlu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr! 

Baner hyrwyddo ar gyfer y brand 'Treuliwch y Nadolig yng nghanol eich tref'

Dros dymor yr ŵyl mae’r cyngor yn cyflwyno brand newydd ‘Treuliwch y Nadolig yng nghanol eich tref’. Y nod yw annog pobl i wneud penderfyniad ymwybodol i wario peth o'u cyllideb Nadolig yn lleol drwy ddarganfod yr anrhegion unigryw sydd ar werth yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg.

Wrth ymweld â chanol y trefi mae cyfle hefyd i dreulio amser gyda ffrindiau a theulu mewn bwytai, bariau a siopau coffi.

Parcio am ddim

Bydd parcio am ddim ar gael yn:

  • Maes parcio aml-lawr Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr (am ddim am y 3 awr gyntaf, rhwng 12pm - 3pm)
  • Maes parcio Stryd John, Porthcawl (am ddim am y 3 awr gyntaf, rhwng 12pm - 3pm)
  • Maes parcio aml-lawr Heol Llynfi, Maesteg

Cynigion a gostyngiadau

Ewch i’r wefan Nadolig Digidol https://nadoligpenybontarogwr.online/ am gynigion gan fusnesau lleol

Lawrlwythwch apiau Caru Pen-y-bont ar Ogwr / Caru Porthcawl / Caru Maesteg i gael talebau am ostyngiadau Nadoligaidd

Wrth siopa cofiwch ddefnyddio diheintydd dwylo, cadwch bellter cymdeithasol a gwisgwch orchudd wyneb – rhaid i ni ddal ati i gadw ein cymunedau yn ddiogel

Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Siambr Fasnach Porthcawl a Chymdeithas Fusnes Maesteg, canolfannau siopa lleol a'r canol trefi a'r Cynghorau Tref

Chwilio A i Y