Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC)

Cyfansoddiad y TAC

Mae’r TAC yn darparu asesiadau tymor byr. Mae’n cynnwys y canlynol:

Mae’r Tîm Asesiadau Tymor Byr ac Ailalluogi (STAR) yn cynnig cyfnod byr, amser cyfyngedig, o ofal therapiwtig a chymdeithasol yng nghartref y person ei hun. Gall pobl sy’n defnyddio ei wasanaethau dderbyn cefnogaeth gan dîm o weithwyr proffesiynol amrywiol fel Ffisiotherapyddion a Gweithwyr Cymdeithasol, neu gan Therapydd Galwedigaethol yn unig.

Ar ôl asesiad, bydd nodau sy’n helpu’r unigolyn i gyflawni beth sy’n bwysig iddo’n cael eu cytuno. Bydd y rhain yn ei gefnogi i adfer/cynnal ei annibyniaeth, a byw mor ddiogel â phosib yn ei gartref ei hun. Bydd y cynnydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd a bydd y gefnogaeth a ddarperir yn cael ei haddasu yn unol â hynny.

Mae hon yn addas ar gyfer cyfnodau byr gyda phobl sy’n debygol o fod angen cefnogaeth ddwysach gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd na sy’n bosib yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r uned yn cynnig arhosiad am amser cyfyngedig a bydd yr unigolion yn gweithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol amrywiol, fel Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol a Gweithwyr Cymdeithasol. Y nod yw adfer cryfder, hyder a sgiliau byw yn annibynnol pobl er mwyn iddynt allu dychwelyd adref a byw mor ddiogel ac annibynnol â phosib.

Mae’r uned ailalluogi yn adain benodol yng Nghartref Gofal Preswyl Bryn y Cae, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r gwasanaeth hwn yn system larwm cartref a phersonol. Gall ffonio am help yn awtomatig pan fo angen neu mewn argyfwng.

Gall ein hoffer gael ei raglennu i hysbysu ein canolfan fonitro 24 awr. Gall drefnu am help gan y gwasanaethau brys, ein Tîm Ymateb Symudol neu aelod o’r teulu/ffrind/gofalwr penodol. Mae’n cynnig sicrwydd o wybod y gall rhywun helpu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Offer teleofal

Mae holl becynnau teleofal yn cael eu hasesu’n unigol. Mae’r offer yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar beth sy’n cynnig yr ateb gorau i’r problemau neu’r risgiau sydd wedi’u canfod yn ystod yr ymweliad asesu. Wrth i anghenion newid, gellir addasu’r gwasanaethau Teleofal, a gellir rhoi offer ychwanegol pan fo angen.

Mae’r rhan fwyaf o’r pecynnau teleofal yn cynnig uned llinell fywyd a chadwyn bersonol y gellir ei phwyso am gymorth. Mae rhai cadwyni’n gallu hysbysu heb gael eu pwyso, pan fydd y sawl sy’n ei gwisgo’n cael codwm neu ffit. Mae synwyryddion cymhlethach ar gael hefyd, i hysbysu yn yr achosion canlynol:

  • tân
  • nwy carbon monocsid
  • llifogydd
  • unigolyn ddim yn dychwelyd i’w wely neu ei gadair ar ôl cyfnod penodol o amser

Hefyd gellir rhoi offer teleofal i ofalwyr i gefnogi eu rôl. Gellir rhaglennu galwr a synwyryddion amrywiol i hysbysu gofalwyr pan fydd rhywun angen cefnogaeth. Gall hyn fod o help mawr, yn enwedig yn ystod y nos.

Tîm Ymateb Symudol

Gall ein Tîm Ymateb Symudol helpu rhywun i godi oddi ar y llawr, os nad ydynt wedi anafu ac os nad oes arnynt angen cymorth meddygol. Hefyd mae’r tîm yn darparu gofal personol ac yn sicrhau bod pobl yn cael eu gadael mor gyfforddus ac mor ddiogel â phosib.

Mae meddygon ymgynghorol, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi’r Ddeddf, ac mae nyrsys uwch yn arwain arni, gyda geriatregydd ymgynghorol yn eu goruchwylio. Diben y tîm hwn yw darparu asesiad, diagnosteg a thriniaeth gyflym yn y gymuned, sy’n osgoi derbyn i ysbyty. Gall gysylltu â’r ysbyty dydd, neu glinigau cymunedol a elwir yn glinigau allweddol, ac mae’n darparu ward ysbyty rithiol yn y gymuned. Gall y tîm hwn ymwneud â rhywun yn y tymor byr a gall drefnu cefnogaeth bellach ar ddiwedd ei gyswllt, os oes angen.

Cefnogaeth gyflym, tymor byr, gartref i bobl sy’n barod i adael yr ysbyty ond yn aros i wasanaeth cymunedol arall ddechrau.

Mae Gwell Gartref ar gael am hyd at 14 diwrnod ac mae’n cael ei ddarparu gan ‘Dim Gofal Cartref’ y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r gwasanaeth tymor byr hwn yn asesu pobl sydd â nam ar y synhwyrau ac mae’n cydlynu eu gofal. Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant ac oedolion.

Ewch i dudalen y Tîm Synhwyraidd am ragor o wybodaeth am atgyfeiriadau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae’r TAC yn cydlynu ac yn rheoli’r Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol. Mae’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol yn gweithio gyda phobl anabl o bob oedran ac yn asesu gallu pobl ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae’r meysydd asesu’n cynnwys y canlynol:

  • gofal personol
  • tasgau yn y tŷ
  • gallu i ofalu a chael gofal
  • gallu i fyw gartref yn ddiogel

Ar ôl asesiad, efallai y bydd y therapyddion galwedigaethol yn rhoi cyngor, yn trefnu offer neu’n argymell addasiadau i’r cartref.

Mae’r holl gyswllt ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn dod drwy Bwynt Mynediad Cyffredin (PMC). Gall y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio’r PMC, sy’n cynnig y canlynol:

  • gwybodaeth, cyngor a chymorth gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau cymunedol a’r trydydd sector, os mai dyma’r gwasanaethau gorau i roi sylw i anghenion lles
  • brysbennu amlddisgyblaethol gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl ac ymateb cymunedol brys i bobl sydd angen asesiad neu wasanaeth ar unwaith

Cysylltu â’r Pwynt Mynediad Cyffredin

Y pwynt mynediad ar gyfer yr holl wasanaethau uchod yw drwy’r Pwynt Mynediad Cyffredin.

Cyswllt

Tîm Adnoddau Cymunedol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642279
Cyfnewid testun: 18001 01656 642279
Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Lles, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
8:30am i 17:00pm Llun i Iau
8:30am i 16:30pm Gwener

Ffacs: 01656 724457
Neges destun: 07581 157014 (ar gyfer cwsmeriaid byddar neu drwm y clyw)

Cysylltu â’r TAC

Cyswllt

Gofal cymdeithasol i oedolion

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 815888
Cyfeiriad: Trem y Môr, Heol Betws, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8UN.
Oriau agor:
Llun i Gwener: 8:30am i 5pm

Chwilio am wasanaeth gofal cymdeithasol arall i oedolion

Chwilio A i Y