Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Teleofal Bridgelink

Mae hwn yn wasanaeth technoleg gynorthwyol sy’n helpu pobl i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’n un o sawl gwasanaeth o’r fath sy’n allweddol ar gyfer hyn. Mae Teleofal Bridgelink yn cynnig sicrwydd o wybod y gall rhywun helpu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae teleofal yn defnyddio uned llinell bywyd, cadwyn a synwyryddion cymhleth eraill weithiau hefyd. Gall yr holl offer ganu larwm drwy gyfrwng galwad ffôn i aelod penodol o’r teulu, gofalwr, ffrind neu ein canolfan fonitro. Gall ein canolfan fonitro helpu i drefnu cymorth gan ein Tîm Ymateb Symudol 24 awr neu’r gwasanaethau brys, yn ogystal ag unrhyw un sydd wedi’i restru fel cyswllt mewn argyfwng.

Ar yr amod nad oes arnynt angen cymorth meddygol, gall ein Tîm Ymateb Symudol helpu i godi rhywun oddi ar y llawr. Hefyd, mae’r tîm yn darparu gofal personol ac yn sicrhau bod pobl yn cael eu gadael mor gyfforddus a diogel â phosib.

Pwy sy’n gallu cael eu hatgyfeirio

Gall unrhyw un ofyn am atgyfeiriad ar gyfer asesiad teleofal. Mae’r gwasanaeth ar gyfer oedolion a phlant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, gall Teleofal helpu rhywun i gynnal ei rôl fel gofalwr teulu drwy gyfrwng galwr sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r gofalwr yn unig.

Asesiadau atgyfeirio

Mae holl becynnau offer Teleofal yn cael eu teilwra i anghenion unigolion, sy’n sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau. Mae’r asesiadau’n penderfynu pa gefnogaeth all rhywun ei chael nawr a beth all fod o help yn y dyfodol. Wrth i anghenion newid, gellir addasu’r offer a’r pecyn teleofal.

Am fwy o wybodaeth am Teleofal Bridgelink neu atgyfeiriad am asesiad, cysylltwch â’r Pwynt Mynediad Cyffredin:

Cyswllt:

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642279
Cyfnewid testun: 18001 01656 642279
Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Lles, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
8:30am i 17:00pm Llun i Iau
8:30am i 16:30pm Gwener

E-bost arall: crtfaxonly@bridgend.gov.uk

Ffacs: 01656 642300

SMS: 07581 157014 (ar gyfer cwsmeriaid byddar a thrwm y clyw)

Chwilio A i Y