Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth Lleoli Oedolion - Bywydau a Rennir Bro Morgannwg

Mae gwasanaeth Bywydau a Rennir Bro Morgannwg ar gael ym Mro Morgannwg a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n wasanaeth amrywiol gyda’n gofalwyr yn cynnig cymorth o’u cartrefi eu hunain ar gyfer unigolion sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.

Os oes gennych chi ystafell wely sbâr ac yn chwilio am ffordd newydd o weithio gartref, gallech chi fod yn rhan o dîm gwych.

Rydym yn recriwtio, asesu, hyfforddi a chefnogi ein gofalwyr, ac yn eu ‘paru’ gydag unigolion. Rydym yn monitro lleoliadau er mwyn i’r gofalwyr a’r unigolion elwa.

Rydym yn cynnig:

  • Lleoliadau hirdymor
  • Lleoliadau tymor byr 
  • Lleoliadau brys hyd at 28 diwrnod
  • Lleoliadau seibiant

Pwy all fod yn Ofalwr Rhannu Bywydau?

Mae Rhannu Bywydau yn recriwtio gofalwyr o bob cefndir. Rydym yn croesawu pobl o bob oed a chefndir, pobl sengl, cyplau a theuluoedd gyda phlant neu heb blant.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch oherwydd byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant fydd ei angen arnoch.

Gofynnwn i ofalwyr fod yn hollol agored am eu bywydau, eu cefndir a’u profiadau.

Byddwn yn cynnal amrywiaeth o wiriadau ac yn gofyn am eirdaon proffesiynol a phersonol.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru’ch diddordeb, ewch i:

Chwilio A i Y