Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adnewyddu neu wneud cais am drwydded barcio i breswylwyr

Mae trwyddedau parcio am ddim ar gyfer parthau trwydded presennol ac yn £20 ar gyfer pob cynllun newydd. Y nod yw galluogi i breswylwyr allu parcio ger eu heiddo.

Mae’r hyn y bydd angen i chi ei ddarparu wrth wneud cais am neu adnewyddu trwydded preswylydd fel a ganlyn:

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, y cyfeiriad a bod o fewn y dyddiad penodol.
  2. Eich llyfr log V5 - rhaid iddo ddangos eich enw, rhif cofrestru'r cerbyd a'r cyfeiriad, neu
  3. Eich atodlen yswiriant neu dystysgrif yswiriant a llythyr eglurhaol - rhaid iddo ddangos eich enw, y cyfeiriad, rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, y cyfeiriad a bod o fewn y dyddiad penodol.
  2. Llythyr gan eich cyflogwr ar bapur pennawd y cwmni - yn nodi y bydd arnoch angen y cerbyd ar gyfer gwaith, ac y bydd y cerbyd yn cael ei barcio yn eich cyfeiriad dros nos (rhaid cynnwys y cyfeiriad lle bydd y cerbyd yn cael ei gadw dros nos yn y llythyr) a bod y car wedi cael ei drethu, bod ganddo MOT, a'i fod wedi cael ei yswirio gan y cwmni
    • NEU eich atodlen yswiriant neu dystysgrif yswiriant a llythyr eglurhaol os nad yw'r cwmni'n yswirio'r cerbyd, a rhaid iddo ddangos eich enw, cyfeiriad, rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, y cyfeiriad a bod o fewn y dyddiad penodol.
  2. Cytundeb y cwmni prydles - rhaid iddo ddangos y cyfeiriad a rhif cofrestru'r cerbyd..
  3. Eich atodlen yswiriant neu dystysgrif yswiriant a llythyr eglurhaol - rhaid iddo ddangos eich cyfeiriad, rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, y cyfeiriad a bod o fewn y dyddiad penodol.
  2. Eich cytundeb Motability - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru'r cerbyd, y cyfeiriad a gyrrwr y cerbyd.
  3. Eich atodlen yswiriant Motability - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.

Adnewyddu neu wneud cais am drwydded barcio i breswylwyr

Gall ceisiadau gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i gael eu gwirio a'u prosesu. Hyd nes y byddwch yn derbyn eich trwydded ddigidol, ni fyddwch yn cael parcio mewn cilfach i breswylwyr.

Cyn gwneud cais, darllenwch y telerau ac amodau.

Tudalennau cymorth Fy Nghyfrif

Os nad ydych yn gallu darparu eich trwydded yrru neu lyfr log V5 oherwydd bod gennych y cyfeiriad anghywir

Gallwch newid eich cyfeiriad ar lyfr log eich cerbyd (V5C) ar wefan Gov.uk.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais ar-lein, anfonir e-bost atoch yn cadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais, a gallwn dderbyn yr e-bost hwn fel eich prawf V5. 

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth wneud cais am drwydded preswylydd ar-lein neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â thrwydded preswylydd, anfonwch e-bost residentpermit@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y