Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Telerau ac amodau trwydded barcio

Mae’n drosedd rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol wrth wneud cais am drwydded barcio.

Drwy gyflwyno cais, rydych chi'n cytuno eich bod yn gwybod y byddwch yn agored i gael eich erlyn os ydych wedi dweud unrhyw beth sy'n anwir ynddo yn fwriadol. Rydych chi hefyd yn cadarnhau eich bod yn deall nad yw trwydded barcio yn gwarantu lle i’r cerbyd barcio ac y bydd camddefnyddio’r drwydded yn golygu ei bod yn cael ei thynnu’n ôl.

Rydych chi hefyd yn rhoi eich caniatâd i'r cyngor wirio'r wybodaeth a roddwyd gennych chi yn erbyn gwybodaeth arall sydd ganddo neu yn erbyn gwybodaeth a gedwir gan adrannau'r llywodraeth a chynghorau lleol eraill. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon i wirio, atal neu ganfod twyll.

Trwydded barcio i breswylwyr - ar gyfer eich stryd chi:

  • bydd trwyddedau’n cael eu rhoi i gar dilys sy'n eiddo i drigolion llawn amser y stryd dan sylw.
  • bydd uchafswm o 1 trwydded i bob preswylydd yn cael ei rhoi, ond nid oes cyfyngiad ar nifer y trwyddedau fesul cartref,
  • ni roddir trwyddedau i gampysau preswyl sydd â darpariaeth barcio breifat.
  • mae trwydded barcio i breswylwyr yn para am flwyddyn o'r dyddiad cyhoeddi ac mae'n rhaid ei hadnewyddu wedyn.
  • mae trwyddedau yn rhad ac am ddim ar gyfer strydoedd neu barthau preswyl a weithredwyd cyn 2023. Ar gyfer pob parth newydd ar ôl y dyddiad hwn codir tâl o £20 y drwydded.
  • rhoddir trwyddedau i gerbydau dim mwy na 3500kg (uchafswm pwysau gros) a dim mwy na 2.35m o uchder a 5.35 metr o hyd

Trwydded barcio i breswylwyr - ar gyfer stryd gyfagos

Ni allwch wneud cais am drwydded oni bai eich bod yn byw ar y stryd/parth lle mae lleoedd parcio i breswylwyr.

Pa dystiolaeth y gofynnir i chi ei darparu ar gyfer trwydded preswylydd?

  • eich llyfr log V5 wedi'i gofrestru yn eich cyfeiriad.
  • eich trwydded yrru yn eich cyfeiriad.
  • eich dogfen / tystysgrif yswiriant yn eich cyfeiriad.

Sylwch nad yw talu Treth y Cyngor yn un o'r meini prawf cymhwyso ar gyfer trwydded barcio i breswylwyr.

Sylwch mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu’r dystiolaeth uchod felly ni fydd unrhyw nodiadau atgoffa yn cael eu hanfon.

Gyrwyr anabl

Os yw person anabl yn berchen ar gerbyd a ddarperir o dan y Cynllun Motability ond na all ei yrru a’i fod felly’n defnyddio gyrrwr penodol, gellir rhoi trwydded barcio i’r preswylydd ar gyfer ei gyfeiriad er nad yw’n berchen ar y car.

  • bydd rhaid i chi ddarparu llythyr gan y person anabl yn cadarnhau mai chi yw ei yrrwr penodol A
  • copi o'r ddogfennaeth perchnogaeth / gwerthiant gan y cwmni Motability yn cadarnhau lle cedwir y cerbyd.

Cerbydau cwmni

Dim ond os yw'r cerbyd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith a bod angen i chi ei gadw yn eich cartref y gellir rhoi trwydded ar gyfer cerbyd cwmni. Bydd angen i chi ddarparu llythyr gan eich cyflogwr, ar ei bapur pennawd, yn cadarnhau mai dyma'r achos.

Os ydych chi'n hunangyflogedig, bydd angen i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig ar eich papur pennawd bod y cerbyd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith, a bod angen i chi ei gadw yn eich cartref.

Trwyddedau papur wedi'u colli neu eu difrodi

Os bydd trwydded bapur yn cael ei cholli neu ei dinistrio, codir tâl o £20 am un arall.

Os na fyddwch yn darparu'r holl dystiolaeth angenrheidiol pan ofynnir i chi, efallai y bydd eich cais am drwydded yn cael ei wrthod neu eich trwydded yn cael ei chanslo.

 

Chwilio A i Y