Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gweithredu ynghylch Rheolau Parcio

Rydym yn gyfrifol am weithredu rheolau parcio ar y stryd a rheolau meysydd parcio, ac eithrio mewn meysydd parcio preifat. Gall wardeiniaid traffig gyflwyno Hysbysiadau Tâl Cosb (PCNs) ar gyfer cerbydau sy’n torri rheolau parcio.
Rydym yn gyfrifol am orfodi ynghylch y canlynol:
  • arosfannau bws a chlirffyrdd
  • ardaloedd parcio dan reolaeth
  • meysydd parcio’r cyngor
  • baeau parcio anabl
  • baeau talu ac arddangos
  • croesfannau i gerddwyr a marciau igam ogam, y mae’r heddlu’n gyfrifol amdanynt hefyd             
  • baeau parcio trigolion lleol
  • marciau igam ogam melyn ysgolion
  • cyrbiau wedi’u gostwng
  • safleoedd tacsis
  • llinellau melyn
Mae’r heddlu’n delio â’r canlynol:
  • cyrbiau wedi’u gostwng neu wrthlifau cerbydau, gan gynnwys materion rhwystro 
  • troseddau traffig yn symud
  • rhwystro ar briffyrdd
  • parcio ar y palmant

Dirwyon

Mae’r cosbau’n haneru o’u talu o fewn 14 diwrnod.
Crynodeb o’r dirwyon 
Cyfradd uchel £70
Cyfradd isel £50

Apelio yn erbyn PCN

Os ydych yn anghytuno gyda Hysbysiad Tâl Cosb (PCN), mae gwybodaeth ynghylch sut i apelio ar wefan Prosesu Cosbau Cymru:

Os yw eich apêl yn aflwyddiannus, gallwch ddefnyddio gwasanaeth y Tribiwnlys Cosbau Traffig.
Mae hwn yn wasanaeth annibynnol sy’n gweithredu’r holl apeliadau terfynol ar gyfer pob PCN. Mae ei benderfyniad yn derfynol ac yn rhwymo.
Bydd y dyfarnwr yn edrych ar y ffeithiau i gyd a gyflwynir gennym ni a chi. Yn gwbl annibynnol, byddant yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau sy’n cael eu darparu yn unig.

Mae opsiynau ar gael i chi hyd yn oed os yw eich achos dirwy barcio wedi cael ei drosglwyddo i feili (Asiantau Gorfodi)

Os yw eich achos wedi cael ei drosglwyddo i feili, mae'n rhy hwyr i apelio ynghylch amgylchiadau'r tocyn.

Gallwch:

  • dalu'r swm llawn i'r swyddog gorfodi (beili).
  • gofyn i gael cynllun talu gyda'r beili (os byddwch yn methu taliad ar y cynllun talu, mae'n bosib y bydd angen ichi dalu costau ychwanegol).
  • cysylltu â'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig (TEC) ar 03001231059 a gofyn i gael rhoi datganiad tyst i geisio cael mwy o amser - yr unig adeg y cewch roi datganiad fel hyn yw pan nad yw'r drefn gywir wedi cael ei dilyn.  

Cysylltu â'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig (TEC)

Os ydych am ddewis opsiwn 3 a chysylltu â'r TEC, bydd ffurflen TE7 / TE9 yn cael ei hanfon atoch. Dim ond ar ôl ichi ddychwelyd y ffurflen hon at y TEC a rhoi gwybod am hyn i'r cyngor, bydd yr achos yn cael ei ohirio gyda'r asiant gorfodi nes bod y mater wedi'i ystyried.

Ar y ffurflen TE7 / TE9, mae'n rhaid ichi roi tic yn ymyl un o bedwar opsiwn i ddangos nad yw'r drefn wedi cael ei dilyn yn gywir. Os ydych yn cyflwyno ffurflen TE7 / TE9 i'r TEC, darparwch gymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosib ynghylch eich amgylchiadau, fel y gallant ystyried eich rhesymau.

Canlyniadau posibl

Mae dau ganlyniad posib pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen TE7 / TE9. Bydd y TEC naill ai'n trosglwyddo'r achos yn ôl i'r beili i barhau i adennill yr arian sy'n ddyledus am y ddirwy barcio, neu'n trosglwyddo'r achos i'r cyngor, a bydd y cyngor yn delio'n uniongyrchol â chi.

Os nad ydych yn hapus ynglŷn â phenderfyniad y TEC ynghylch eich TE7 / TE9, mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad ar y llythyr gan y TEC atoch chi i ofyn i gael adolygiad o'ch achos gan farnwr rhanbarth.  Codir tâl am adolygu achos.

Os na fyddwch yn gwneud dim ynghylch y mater, bydd costau ychwanegol yn ddyledus ac mae'n bosib y bydd eich cerbyd yn cael ei glampio a'i gludo i gompownd ceir neu nwyddau o'r un gwerth â'r ddyled yn cael eu casglu o'ch eiddo.

Gwnewch y canlynol:
  • parcio’n ddiogel
  • parcio yn y gofod a ganiateir sydd wedi’i ddarparu
  • edrych ar yr arwyddion am gyfyngiadau amser, oherwydd gall y rhain amrywio, gan gofio y gall arwyddion fod ymhellach i ffwrdd os yw’r ardal mewn parth parcio dan reolaeth 
  • gadael o fewn y cyfyngiad amser
  • defnyddio ac arddangos eich bathodyn person anabl fel y nodir yn y llyfr bathodynnau glas
  • llwytho a dadlwytho cyn gynted â phosib
  • edrych ar y marciau ffordd cyn parcio
  • darllen rheolau’r ffordd fawr i’ch atgoffa am ystyron marciau        
  • bod yn ymwybodol bod cyfyngiadau aros yn berthnasol i’r briffordd gyfan, gan gynnwys ymylon ffyrdd a phalmentydd
  • arddangos pob tocyn talu ac arddangos yn gywir

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • parcio ar linellau melyn dwbl a dim ond parcio ar linellau melyn sengl ar amseroedd a ganiateir
  • parcio mewn caeau anabl heb ddangos bathodyn glas anabl dilys          
  • parcio mewn baeau i drigolion lleol heb arddangos trwydded ddilys ar gyfer y lleoliad hwnnw
  • achosi rhwystr          
  • parcio neu stopio mewn arosfannau bws neu ar glirffyrdd, dim hyd yn oed i godi neu ollwng teithwyr              
  • parcio neu stopio ar linellau igam ogam sy’n arwain i neu o groesfannau i gerddwyr
  • parcio neu aros mewn safleoedd tacsis
  • parcio neu aros lle mae cyfyngiadau llwytho yn eu lle 
  • parcio neu stopio ar farciau igam ogam ysgol, dim hyd yn oed i godi neu ollwng rhywun yn sydyn
Ni allwn orfodi rheolau parcio os nad oes Gorchymyn Rheoli Traffig (TRO) yn ei le. Gellir edrych ar bob TRO o dan y Llyfrgell TRO ar wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Cofiwch y gall unrhyw TRO newydd gymryd ychydig o amser i ymddangos yn y llyfrgell. 

Car Camera ‘Roly Patroly’

Ers mis Awst 2018 mae car camera o’r enw ‘Roly Patroly’ wedi lleihau’r parcio anghyfreithlon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i oruchwylio y tu allan i ysgolion, mae’r car hefyd yn rhoi hysbysiadau tâl cosb i gerbydau a welir yn stopio ar:
  • arosfannau bws
  • croesfannau i gerddwyr
  • safleoedd tacsis
  • lle mae cyfyngiadau llwytho/dadlwytho mewn grym  
Bydd hysbysiadau tâl cosb ein car camera’n cael eu postio at y ceidwad cofrestredig ar ôl i’r DVLA ddarparu’r manylion hyn.     

Chwilio A i Y