Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadwraeth a dylunio

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont gyfoeth o adeiladau hanesyddol, trefi, nodweddion archaeoleg a thirweddau amrywiol. Mae’r asedau treftadaeth hyn wedi cyfrannu at dwf ac esblygiad dros lawer o ganrifoedd.

Mae asedau hanesyddol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yn cynnwys y canlynol:

  • 373 o adeiladau a strwythurau rhestredig
  • 60 o henebion rhestredig
  • 16 o ardaloedd cadwraeth
  • pum parc a gerddi hanesyddol
  • 525 o adeiladau ar y rhestr leol ddrafft
  • safleoedd neu ardaloedd o arwyddocâd archaeolegol
  • un dirwedd hanesyddol o ddiddordeb hanesyddol eithriadol yng Nghymru
  • un dirwedd hanesyddol o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru, yn ogystal ag un ar ffin y sir

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn nodi’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ar gyfer rheoli asedau treftadaeth. Mae Polisi a chanllawiau cenedlaethol ar gael i gefnogi awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, perchnogion adeiladau, meddianwyr ac asiantau. Mae hyn er mwyn bod yn sail i gynigion a rheoli newid.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont fel yr Awdurdod Cynllunio lleol ddyletswyddau statudol yng nghyswllt y gwaith o reoli a diogelu’r amgylchedd hanesyddol. Rôl y Tîm Cadwraeth a Dylunio yw:

  • diogelu a gwella asedau hanesyddol y fwrdeistref sirol
  • codi safonau mewn ansawdd dylunio ar draws y fwrdeistref sirol
  • cynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a mwynhad yr amgylchedd hanesyddol ymysg y cyhoedd

Mae cyngor ac arweiniad ar gael ar bob agwedd ar gynigion atgyweirio, adfer ac addasu sy’n effeithio ar unrhyw un o’r asedau hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys adeiladau rhestredig, archaeoleg ac ardaloedd cadwraeth.

Cyngor cynllunio cyn gwneud cais

Argymhellir yn gryf darllen y cyngor cynllunio cyn gwneud cais ar gyfer unrhyw waith a gynllunnir. Bydd hyn yn cadarnhau pa ganiatâd statudol fydd ei angen ac yn ystyried deunyddiau, dulliau a dyluniadau.

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Cadwraeth a Dylunio

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643164

Chwilio A i Y