Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Taliadau tai yn ôl disgresiwn

Mae'r cynllun Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) yn helpu pobl y gall fod angen rhagor o help arnynt gyda'u costau tai. Dim ond os ydynt yn hawlio budd-dal tai, lwfans tai lleol neu elfen tai y credyd cynhwysol y gallant gael hyn.

Rydym yn cael cyllid cyfyngedig gan y Llywodraeth ar gyfer y cynllun TTD. Mae'r swm y gallwn ei wario ar y cynllun bob blwyddyn yn gyfyngedig, ac ni fyddwn yn dyfarnu cyllid i bawb sy'n hawlio TTD.

Gwneud cais am TTD

Fel arfer, rhoddir TTD i dalu am y diffyg rhwng rhent rhywun a'i fudd-dal neu ddyfarniad credyd.

Gall TTD hefyd helpu gyda chostau eraill fel:

  • rhent ymlaen llaw
  • costau symud os oes angen i chi symud tŷ

Fodd bynnag, ni ellir rhoi TTD i helpu gyda:

  • y dreth gyngor
  • taliadau gwasanaeth nad ydynt yn dod o dan fudd-dal tai na chredyd cynhwysol, fel gwres, golau, dŵr poeth neu daliadau am gyfraddau dŵr
  • cynnydd yn swm y rhent yr ydych yn ei dalu oherwydd eich bod yn talu ôl-ddyledion rhent
  • didyniadau o'r budd-dal tai oherwydd bod sancsiwn ar eich lwfans ceisio gwaith
  • pan gaiff eich taliadau budd-dal tai eu hatal
  • gostyngiad yn y budd-dal tai oherwydd bod gordaliad wedi'i adennill

Gallwch wneud cais am TTD pan fydd gennych:

  • hawl gyfredol i fudd-dal tai, neu elfen tai y credyd cynhwysol
  • diffyg rhwng faint o fudd-dal neu gredyd a gewch a'ch costau tŷ

Wrth wneud penderfyniad, rydym yn adolygu:

  • cyfanswm eich incwm
  • a oes gennych unrhyw gynilion
  • a all unrhyw un arall yn y tŷ helpu'n ariannol
  • a oes gennych unrhyw fenthyciadau neu ddyledion i'w talu
  • a allech aildrefnu eich cyllid i helpu eich sefyllfa
  • a oes gennych chi neu'ch teulu unrhyw amgylchiadau arbennig fel salwch neu anabledd
  • a ydych chi wedi ceisio cywiro'r sefyllfa eich hun

Gofynnir i chi am lawer o wybodaeth ac efallai y bydd angen tystiolaeth fel cyfriflenni banc neu brawf o fenthyciadau. Efallai y gofynnir i chi alw heibio i drafod eich cais yn fwy manwl.

Bydd eich cais yn cael ei benderfynu cyn gynted ag y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol. Yna, byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych chi beth yw'r penderfyniad. Os byddwn yn dyfarnu TTD i chi, bydd y llythyr yn dweud wrthych faint a gewch ac am ba gyfnod.

Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael taliad a bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Edrychir ar bob achos yn unigol, a gellir ei dalu am wahanol gyfnodau o amser, sydd fel arfer rhwng 3 a 12 mis.

Efallai y bydd modd i chi ailymgeisio ar ôl i ddyfarniad TTD ddod i ben. Efallai y bydd amodau ynghlwm wrth ddyfarniadau, ac os felly gellir ystyried y rhain os bydd cais yn cael ei ailgyflwyno.

Ar gyfer diffygion budd-dal tai, ni all y swm a ddyfernir fod yn fwy na chyfanswm eich rhent minws unrhyw symiau ar gyfer gwasanaethau fel trydan neu ddŵr.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fel arfer bydd y TTD yn cael ei dalu gydag unrhyw fudd-dal tai a gewch, er nad yw'r TTD yn fudd-dal. Os byddwch yn cael credyd cynhwysol, byddwn yn talu i chi bob mis os byddwch yn talu eich rhent bob mis, ac fel arall byddwn yn talu i chi bob pedair wythnos. Caiff taliadau eu gwneud mewn ôl-daliadau.

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad i beidio â dyfarnu TTD, y swm a ddyfernir neu ei hyd, gofynnwch i'r penderfyniad gael ei adolygu eto. I wneud hynny, ysgrifennwch at yr Adran Budd-dal Tai cyn pen mis calendr i ddyddiad llythyr y penderfyniad yn dweud wrthym pam nad ydych yn cytuno. Mae croeso i chi roi rhagor o wybodaeth i gefnogi eich cais. Byddwn yn edrych ar y penderfyniad eto, ac yn rhoi gwybod am y canlyniad i chi.

Sylwer na allwch apelio i'r Gwasanaeth Tribiwnlys os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, ysgrifennwch at yr Adran Budd-dal Tai ar unwaith. Wedyn, bydd eich TTD yn cael ei adolygu eto i weld a ddylid newid y dyfarniad.

Os yw'r newid yn golygu bod eich dyfarniad TTD yn cael ei leihau, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o'r TTD neu’r holl swm rydych wedi'i gael yn barod.

 

Defnyddiwch y manylion cyswllt isod i ysgrifennu atom:

Cyswllt:

Adran Budd-daliadau Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Benefits@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y