Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canllawiau ar gyfer budd-daliadau estynedig neu wedi’u hôl-ddyddio

Symud oddi wrth fudd-dal tai at gredyd cynhwysol

Byddwn yn rhoi i hawlwyr bythefnos ychwanegol o fudd-dal tai unwaith rydym yn gwybod pryd cawsant eu symud i dderbyn credyd cynhwysol.

Taliadau estynedig ar gyfer pobl sydd ar fin dechrau gweithio

Nod taliadau estynedig yw helpu pobl ddi-waith yn y tymor hir sy’n dychwelyd i’r gwaith. Maent yn darparu hyd at bedair wythnos ychwanegol o fudd-dal tai, lwfans tai lleol, neu fudd-dal treth gyngor.

Meini prawf ar gyfer budd-daliadau estynedig

Bydd gennych hawl i daliad estynedig os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • chi neu eich partner yn dechrau cyflogaeth neu hunangyflogaeth, neu’n cynyddu eich oriau neu eich enillion
  • mae disgwyl i’r newid bara am bum wythnos o leiaf
  • chi neu eich partner â hawl i lwfans ceisydd gwaith neu gynnal incwm neu gyfuniad o’r ddau’n barhaus am o leiaf 26 wythnos

Fel dewis arall, bydd gennych hawl i daliad estynedig os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • chi neu eich partner wedi bod â hawl i fudd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu gyfuniad o’r ddau yn barhaus am o leiaf 26 wythnos heb gredyd pensiwn
  • yr hawl i unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn yn dod i ben ar ôl dechrau gweithio neu gynyddu oriau gwaith
  • chi neu eich partner yn parhau’n atebol am rent a/neu leihad treth gyngor yn yr un cyfeiriad neu mewn cyfeiriad newydd

Hawlio budd-daliadau estynedig

Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn pedair wythnos i ddechrau gweithio neu gynyddu eich oriau os ydych yn teimlo bod gennych hawl i daliad estynedig. Fel arall, ni fyddwch yn gymwys. Gallwch roi gwybod i ni dros y ffôn neu’n bersonol, ond rydym yn argymell eich bod yn anfon cadarnhad ysgrifenedig wedyn. Mae ein manylion cyswllt wedi’u cynnwys ar waelod y dudalen yma.

Hawliadau llwyddiannus am fudd-daliadau estynedig

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn diwygio eich hawliad am fudd-dal. Bydd yn parhau am hyd at bedair wythnos o’r dydd Llun ar ôl i’ch lwfans cynnal incwm, lwfans ceisydd gwaith, budd-dal analluogrwydd neu lwfans anabledd difrifol gael ei stopio.
Byddwch yn cael eich talu ar y gyfradd rydych yn ei derbyn ar hyn o bryd a bydd eich hawliad yn cael ei ganslo ar ôl y cyfnod talu estynedig.

I ddal ati i hawlio budd-dal tai, lwfans tai lleol neu leihad treth gyngor ar ôl y cyfnod talu estynedig, rhaid i chi gwblhau hawliad mewn gwaith newydd. Cewch eich asesu ar sail eich manylion incwm newydd.

Budd-daliadau wedi’u hôl-ddyddio

Diffiniad o fudd-daliadau wedi’u hôl-ddyddio

Budd-dal wedi’i ôl-ddyddio yw budd-dal tai neu leihad treth gyngor sy’n cael ei dalu am gyfnod sydd wedi bod cyn i ni gael eich ffurflen hawlio.

Sut rydym yn penderfynu ôl-ddyddio ai peidio

Rhaid i chi ddangos bod gennych chi reswm da dros beidio â hawlio budd-dal tai, lwfans tai lleol neu leihad treth gyngor ar y pryd. Rhaid i’r rheswm dros beidio â hawlio fod wedi para am y cyfnod llawn rydych chi eisiau i ni ôl-ddyddio eich hawliad ar ei gyfer.

Esiamplau o resymau da

Efallai bod un neu fwy o resymau pam nad oedd posib i chi hawlio. Dyma rai:

  • wedi bod yn ddifrifol wael neu yn yr ysbyty
  • wedi bod allan o’r wlad am amser hir a ddim yn gwybod eich bod yn gallu hawlio
  • cael problemau gyda’r Gymraeg neu’r Saesneg a neb i’ch helpu chi i hawlio
  • wedi cael cyngor anghywir mewn Canolfan Byd Gwaith

Gallai rhesymau fel y rhain eich helpu chi i gael budd-dal wedi’i ôl-ddyddio. Er hynny, rhaid i ni edrych ar bob hawliad ar sail ei gynnwys penodol ac ystyried popeth.

Sut byddwch chi’n gwybod bod eich hawliad wedi cael ei ôl-ddyddio

Byddwn yn ysgrifennu atoch chi pan fyddwn wedi penderfynu ôl-ddyddio eich hawliad ai peidio. Os byddwn yn ôl-ddyddio eich hawliad, bydd y llythyr yn dweud at pryd rydym yn ôl-ddyddio, faint fyddwch yn ei gael a sut caiff ei dalu. Os na fyddwn yn ôl-ddyddio eich hawliad, bydd y llythyr yn dweud pam a beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn hapus gyda’n penderfyniad ni.

Gwneud cais am fudd-dal wedi’i ôl-ddyddio

Rhaid i’ch cais fod yn ysgrifenedig. Rhaid iddo gynnwys cymaint o fanylion â phosib a dylech ddarparu unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i’w gefnogi. Os na chawn ddigon o wybodaeth i benderfynu, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddod i mewn i’r swyddfa i weld un o’n swyddogion ni.

Cysylltwch â’r Adran Budd-daliadau i wneud cais am ôl-ddyddio, neu i wneud apwyntiad gyda’n swyddogion ni.

Cyswllt

Y Tîm Budd-dal Tai a Lleihau Treth Gyngor

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643396
Cyfeiriad: Adran Budd-daliadau, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, CF31 4WB.

Chwilio A i Y