Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheoli plâu

Os ydych yn cael problem gyda phlâu, cysylltwch â ni. Gallwn drin eiddo preswyl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Nid ydym yn gallu trin eiddo masnachol.

Gallwn drin y canlynol:

  • Llygod mawr
  • Llygod
  • Chwilod duon
  • Pycs
  • Gwenyn meirch
  • Chwain

Noder: Codir tâl o £66.30 am drin gwenyn meirch a £99.45 am drin chwain.

Os oes gennych bla o Lygod Bach, Llygod Mawr, Pýcs neu Chwilod Duon mewn eiddo preswyl, gallwn drefnu ymweliad am ddim gan ein Tîm Rheoli Plâu.

Gwenyn

Nid ydym yn trin gwenyn y tu allan i eiddo. Dim ond pan fydd risg o ran diogelwch y cyhoedd neu risg iechyd a diogelwch y byddwn yn trin gwenyn y tu mewn i eiddo. Bydd angen i wenynwr cofrestredig gymeradwyo hyn.

 Os oes gwenyn y tu allan i’ch eiddo, cysylltwch â Gwenynwyr Pen-y-bont ar Ogwr. 

Adnabod pla o lygod

Dyma arwyddion pla o lygod:

  1. Arogl. Mae gan lygod bach a mawr arogl amonia cryf iawn.
  2. Sŵn. Hefyd, yn ychwanegol at yr arogl cryf, mae llygod yn swnllyd iawn yn aml.
  3. Baw. Mae llygod mawr yn gwneud baw bach, siâp peled hyd at 14mm o ran maint, ond mae baw llygod bach yn 5mm fel rheol ac yn siâp gwerthyd.
  4. Olion seimllyd. Gall saim a baw oddi ar eu cyrff adael olion ar arwynebau a sgyrtins. Oherwydd bod eu golwg yn wan, maen nhw’n tueddu i ddefnyddio’r un llwybrau.
  5. Olion traed. Mae llygod mawr yn gallu gadael marciau traed a chynffon mewn ardaloedd llychlyd, gwacach mewn adeiladau, fel selerydd.

Atal pla o lygod

Cadw bwyd yn ddiogel

Mae llygod mawr a bach yn ffafrio bwydydd sy’n llawn carbohydradau a siwgr sy’n rhoi llawer o egni ond, gan eu bod yn farus iawn, maent yn fodlon bwyta unrhyw beth bron. Cadwch unrhyw fwyd mewn cynwysyddion wedi’u selio er mwyn atal llygod rhag cael ato, ac i leihau unrhyw arogl sy’n eu denu. Hefyd, gwnewch yn siŵr bod caeadau diogel ar unrhyw finiau yn yr awyr agored a sicrhau cyn lleied o wastraff bwyd â phosib, gyda biniau compost yn cael eu cau’n dynn.

Selio unrhyw agoriad

Seliwch unrhyw dyllau sy’n fwy na chwarter modfedd, sy’n lled beiro. Gan fod llygod yn gallu cnoi drwy bob math o ddeunydd yn gyflym i greu agoriad mwy, llenwch nhw gyda sment a / neu wlân dur os yw hynny’n bosib.

Mae glendid yn allweddol

Dim ond os oes ganddyn nhw rywle i guddio fydd llygod bach a mawr yn teimlo’n ddiogel. Os yw hynny’n bosib, dylid tynnu gwrthrychau oddi wrth y waliau fel eich bod yn gallu edrych y tu ôl iddyn nhw’n hwylus. Cofiwch lanhau’n rheolaidd o dan oergelloedd, poptai, cypyrddau ac unrhyw ardaloedd eraill anodd eu cyrraedd.

Archwilio eich draeniau yn rheolaidd

Gan fod llygod yn gallu mynd i mewn i adeiladau drwy ddraeniau sydd wedi’u difrodi, gwnewch yn siŵr bod y rhain yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Ar achlysuron prin, maen nhw wedi dod i mewn i eiddo drwy bowlen y toiled hyd yn oed, drwy nofio drwy seliau dŵr neu beipen siâp U.

Amodau i’w bodloni cyn bydd Aderyn yn ymweld

I’r preswylwyr sydd wedi cael cyfarwyddyd i warchod eu hunain yn ystod cyfyngiadau COVID19 – dilynwch gyfarwyddyd y llywodraeth, sef:

Sicrhau cyn lleied â phosib o gysylltiadau

Golchi eich dwylo'n rheolaidd gyda sebon a dŵr am 20 eiliad, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael

Cadw 2 fetr neu 3 cham oddi wrth bobl nad ydych yn byw gyda nhw  

Osgoi cyffwrdd â'ch wyneb a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen  

Glanhau arwynebau'n rheolaidd ac osgoi cyffwrdd arwynebau y mae eraill wedi cyffwrdd â nhw

Sicrhau bod unrhyw fannau caeedig wedi'u hawyru'n dda

Os gwelwyd yn y gofod byw ac os yw’n argyfwng           

Gwelwyd yn ystod y 24 awr ddiwethaf. Mae'n rhaid i chi fod wedi gweld llygoden fawr o fewn y 24 awr ddiwethaf y tu mewn i'ch cartref (Nid yw llygod bach yn cael eu hystyried yn argyfwng).

Rhaid bod yn y gofod byw. Gofod byw yw’r ystafelloedd yn eich cartref fel cegin, ystafell ymolchi, ystafell fyw neu ystafell wely. Nid yw atig, wal ceudod a garejys yn cael eu hystyried yn ofod byw.

Os gwelwyd y tu allan i’r gofod byw, gan gynnwys yr atig, wal ceudod a garejys                

  1. Dileu ffynonellau bwyd allanol. Peidiwch â bwydo unrhyw anifeiliaid yn yr awyr agored, fel adar, cathod strae neu wiwerod. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw faw anifeiliaid anwes yn cael ei glirio gan fod hwn yn gallu bod yn fwyd i lygod mawr hefyd.
  2. Cael gwared ar gysgod ar gyfer llygod mawr. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw laswellt neu blanhigion wedi gordyfu, neu unrhyw hen ddeunyddiau/rwbel yn eich eiddo. Mae cael gwared ar y rhain yn cael gwared ar gysgod ar gyfer llygod mawr.
  3. Gwarchod cynwysyddion gwastraff bwyd. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gynwysyddion gwastraff bwyd yn cael eu selio a’u cau i ffwrdd rhag i unrhyw anifail fynd i mewn iddynt.
  4. Rhaid iddi fod yn broblem gyson yn hytrach na dim ond gweld un llygoden fawr yn mynd heibio, heb ei gweld eto. Os na fydd llygoden fawr yn gallu dod o hyd i fwyd neu gysgod, ni fydd ganddi reswm dros ddychwelyd i ardd.
  5. Peidiwch â defnyddio eich abwyd na’ch trapiau eich hun. Yn unol â’r label ar wenwyn llygod mawr, cyfrifoldeb y person a osododd yr abwyd yn ei le yw ei archwilio a chasglu unrhyw gyrff. Ni fydd Aderyn yn ymweld er mwyn archwilio eich abwyd chi neu i godi cyrff marw wedi i chi osod gwenwyn llygod mewn lleoliad.

Edrych yn fanwl ar anifeiliaid anwes a’u golchi

Edrychwch yn fanwl ac yn rheolaidd ar eich anifeiliaid anwes am chwain gan ddefnyddio crib chwain, a’u golchi’n rheolaidd. Bydd hyn o help i chi ganfod problem bosib yn gynnar ac atal chwain rhag setlo mewn carpedi a gwelyau.

Golchi dillad gwely yn aml

Golchwch ddillad gwely eich anifeiliaid anwes yn wythnosol, ar dymheredd uwch na 50 gradd yn ddelfrydol i ladd unrhyw chwain segur ac wyau.

Defnyddio sugnydd llwch ar loriau

Ewch ati i ddefnyddio sugnydd llwch yn rheolaidd ar loriau a dodrefn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gorchuddio mannau anodd eu cyrraedd gan fod chwain yn hoffi cuddio mewn craciau mewn estyll llawr a chilfachau.

Ysgwyd matiau a dillad gwely

Cofiwch ysgwyd neu guro matiau neu ddillad gwely anifeiliaid anwes yn yr awyr agored fel bod unrhyw chwain ac wyau yn syrthio oddi arnynt.

Ystyriwch leoliadau’r gwelyau

Ystyriwch osod gwelyau anifeiliaid anwes mewn ardaloedd heb garpedi. Gall hyn gynnwys lloriau pren, ond dim ond os ydynt wedi’u selio’n dda. Os oes bylchau rhwng yr estyll, gall wneud y pla’n fwy anodd ei drin.

Archwilio unrhyw eiddo newydd

Wrth symud i gartref newydd, archwiliwch y carpedi a’r lloriau yn ofalus am arwyddion o wyau neu ‘faw chwain’. Os oes gan y perchnogion blaenorol anifeiliaid anwes, gall larfa’r chwain fod yn aros amdanoch chi.

Adnabod pla o gocrotsis

Mae’r arwyddion o broblem gyda chocrotsis yn cynnwys y canlynol:

  1. Arogl anarferol. Mae pla o gocrotsis yn creu arogl amhleserus sy’n aros yn hir ac yn effeithio ar bob eitem mae’r cocrotsis yn ei chyffwrdd.
  2. Baw cocrotsis. Os nad oes llawer o ddŵr ar gael, bydd cocrotsis yn creu baw brown/du siâp silindr sydd tua 2mm o hyd.
  3. Marciau seimllyd. Os oes digon o ddŵr ar gael, bydd cocrotsis yn creu marciau seimllyd brown ac afreolaidd. Chwiliwch am farciau ar arwynebau llorweddol ac wrth gyffyrdd y waliau a’r llawr y mae’r cocrotsis yn symud ar eu hyd.
  4. Colli croen. Mae cocrotsis yn colli rhwng pump ac wyth croen wrth iddyn nhw aeddfedu yn oedolion. Mae’r crwyn yma i’w gweld yn agos at ble mae’r cocrotsis yn cysgodi fel arfer.

Atal pla o gocrotsis

Cadw bwyd yn ddiogel

Y ffordd fwyaf effeithiol o atal cocrotsis yw sicrhau nad oes ganddyn nhw fwyd, dŵr na chysgod drwy wneud y canlynol:

  • peidio â gadael hylif mewn sinciau na bwcedi
  • peidio â gadael bwyd allan ar gownteri
  • storio bwyd sych mewn cynwysyddion sydd wedi’u selio’n dynn
  • rinsio caniau, poteli a phlastigau cyn eu rhoi mewn biniau ailgylchu
  • gwagu eich sbwriel bob dydd

Glanhau

Clirio pob gwastraff bwyd ac unrhyw hylif sy’n cael ei dywallt. Mae hynny’n cynnwys glanhau gweddillion bwyd oddi ar ardaloedd paratoi bwyd ac o dan sinciau a chyfarpar. Cofiwch gadw bwyd a diod eich anifeiliaid cyn iddi nosi, a’u hambyrddau baw.

Cael gwared ar lanast

Mae cocrotsis yn rhyddhau crynhoad o fferomon yn eu baw i ddweud wrth eraill eu bod wedi dod o hyd i le diogel. Cadwch hen staciau o bapurau newydd a chylchgronau, bocsys cardfwrdd nad oes defnydd iddynt ac unrhyw lanast arall oddi ar y llawr neu o waelod cypyrddau lle mae gan gocrotsis fynediad hwylus.

Rhoi mesurau atal ar waith

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • paentio neu roi farnais ar silffoedd pren i’w selio, a’u glanhau’n lân yn rheolaidd
  • gwirio’r ardaloedd risg lle gall cocrotsis gael mynediad i’r cartref, fel craciau, cilfachau, fentiau, carthffosydd a phibellau draenio
  • lleihau’r ardaloedd cuddio drwy selio ardaloedd fel craciau mewn waliau, o amgylch sgyrtins, tu ôl i socedi trydan, o dan sinc y gegin a chabinet yr ystafell ymolchi

Cyn teithio, edrychwch ar safleoedd fel Trip Advisor am adolygiadau

Os yw’r gwesty wedi cael problem gyda llau gwely yn flaenorol, mae’n debygol y bydd y cwsmeriaid wedi rhannu eu profiad o hyn ar safleoedd adolygu ar-lein.

Archwilio ystafell y gwesty cyn dadbacio

Mewn gwestai, fel rheol mae llau gwely i’w gweld ar y gwely ac o’i amgylch a byddant yn cuddio yn sêm y fatres, ar bennau gwelyau ac mewn cilfachau mewn dodrefn wrth ochr y gwely. Maent i’w canfod yn y sgyrtins hyd yn oed. Oherwydd hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio’ch ystafell yn drwyadl cyn setlo ynddi. Archwiliwch eich cesys hefyd, rhag ofn eich bod wedi codi unrhyw lau yn yr awyren.

Peidiwch â rhoi eich cês ar y gwely pan rydych yn cyrraedd

Mae llawer o bobl yn rhoi eu cês ar y gwely wrth gyrraedd eu hystafell. Ond mae’n well rhoi eich cês mewn bath neu gawod i ddechrau, i archwilio’r gwely am lau. Mae hyn yn helpu i leihau’r risg o lau’n cropian o’r gwely i’ch dillad chi ac i’r gwrthwyneb.

Gofyn am newid ystafell

Os ydych yn amau bod llau gwely yn bresennol, gofynnwch am newid ystafell. Hefyd, gofynnwch a oes ystafell ar lawr gwahanol, heb fod yn union uwch ben neu oddi tan yr ystafell dan amheuaeth, gan fod llau gwely’n gallu teithio rhwng ystafelloedd.

Chwilio drwy eich eiddo a’i olchi cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd gartref

Rhowch eich cês mewn bath a chwilio am arwyddion o bryfed cyn dechrau dadbacio eich eiddo. Golchwch unrhyw ddillad fu gennych chi ar eich gwyliau ar dymheredd o 60 gradd. Bydd hyn yn helpu i ladd unrhyw lau gwely byw neu wyau.

Chwilio A i Y