Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynwysyddion ailgylchu

Gwybodaeth am fagiau a bocsys ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cofiwch eu rhoi ar garreg y drws/wrth ymyl y ffordd cyn 7.00am ar ddiwrnod eich casgliad ailgylchu.

Os ydych angen rhagor o fagiau neu focsys ailgylchu, gallwch eu harchebu ar-lein:

Sach ddefnydd oren ar gyfer cardfwrdd

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • pecynnau cardfwrdd
  • Papur brown
  • bocsys wyau
  • cardiau pen blwydd
  • cartonau diod cwyrog sydd hefyd yn cael eu galw’n becynnau tetra            

Os oes gennych chi unrhyw ddarnau mawr ychwanegol o gardfwrdd, rhowch nhw wrth ymyl eich sach oren ar gyfer eu casglu.            

Sach ddefnydd las ar gyfer plastigau a metelau

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • poteli plastig fel poteli llaeth, diod a siampŵ     
  • cynwysyddion bwyd fel potiau iogwrt a thybiau mererin    
  • cwpanau plastig
  • hambyrddau bwyd heb fod yn ddu          
  • pynets
  • caniau aerosol gwag
  • hambyrddau a chynwysyddion ffoil
  • tuniau bwyd
  • caniau diod

Peidiwch â chynnwys:

  • plastig du
  • bagiau plastig gan gynnwys bagiau cario, bagiau bara a bagiau bwyd rhew
  • ffilm plastig, cling film a’r deunydd lapio sydd am felysion a bisgedi 
  • plastig LDPE 4
  • pecynnau creision/ffoil cefn papur fel codau ffoil 
  • deunydd lapio swigod 
  • cloriau CD/DVD a fideo 
  • polystyren
  • teganau a phlastig caled arall
  • potiau planhigion
  • paent chwistrell
  • canisters nwy

Sach ddefnydd wen ar gyfer papur

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • papur
  • papur newydd
  • cylchgronau
  • cyfeirlyfrau ffôn     
  • catalogau, ond cofiwch dynnu unrhyw orchuddion cardfwrdd
  • papur wedi’i rwygo – ychydig ar y tro
  • post jync gan gynnwys amlenni

Peidiwch â chynnwys:

  • papur wal
  • papur lapio  
  • hancesi papur
  • tyweli papur 
  • papur cegin           
  • cerdyn
  • Papur brown

Cadi brown ar gyfer gwastraff bwyd

I ailgylchu gwastraff bwyd, rhaid ei roi yn y cadi brown bach a rhaid leinio’r cadi gyda bag pydradwy gwyrdd. Pan mae’r bag yn llawn, rhaid ei glymu a’i roi yn y cadi brown mawr yn barod i’w gasglu.

Mae hwn yn cynnwys y canlynol:

  • bwyd wedi a heb ei goginio
  • cig  
  • pysgod
  • esgyrn
  • crwyn    
  • bagiau te
  • bwyd anifeiliaid anwes

Peidiwch â chynnwys:

  • gwastraff gardd
  • blodau wedi’u torri

Cadi du ar gyfer gwydr

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • poteli gwydr
  • jariau gwydr

Peidiwch â chynnwys:

  • cerameg a tsieina 
  • gwydrau yfed    
  • paenau gwydr
  • pyrex
  • bylbiau golau

Gellir ailgylchu gwydr drosodd a throsodd heb golli unrhyw ansawdd.

Rhowch ddillad a pharau o esgidiau mewn bag cario wrth ymyl gweddill eich deunyddiau i’w hailgylchu. Cofiwch gynnwys dillad gwely, cwiltiau a gobennydd.

Rhowch fatris, hen ffonau symudol a sbectolau mewn bag plastig clir fel bag brechdanau wrth ymyl gweddill eich deunyddiau i’w hailgylchu.

Gellir ailgylchu peiriannau tostio, tegellau, haearnau stilo, peiriannau sychu gwallt ac eitemau trydan eraill bychain drwy eu rhoi mewn bag cario ar wahân a’u gosod ar ochr y palmant. Nid yw unrhyw beth gyda sgrin, fel gliniadur neu deledu, yn addas ar gyfer y casgliad yma a dylid mynd â hwy i ganolfan ailgylchu gymunedol.

Chwilio A i Y