Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol

Casgliadau: Bob pythefnos (yr un diwrnod â’ch casgliad gwastraff na ellir ei ailgylchu)

Gallech fod yn gymwys ar gyfer Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) os oes gan eich cartref unrhyw un o’r eitemau canlynol i’w gwaredu.

  • Clytiau
  • Bagiau colostomi
  • Padiau anymataliaeth oedolion

Noder: Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch hefyd roi haenau gwely plastig, menig plastig, ffedogau y gellir eu gwaredu, papur toiled ac weipiau yn eich bagiau.

Peidiwch â rhoi cynnyrch hylendid merched yn eich bagiau, dylid rhoi’r rhain yn eich bagiau sbwriel arferol

Chwilio A i Y