Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion y fwrdeistref sirol yn arddangos eu hystod o ddoniau

Unwaith eto, mae ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol wedi’u nodi am yr hyn y maent wedi llwyddo i’w gyflawni eleni.

Rhestrwyd Ysgol Gyfun Cynffig ac Ysgol Gynradd Notais ymysg nifer o ysgolion o’r ardal a dderbyniodd gymorth gan gystadleuaeth mewn arddull ‘Dragon’s Den’, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y rhanbarth.  Nod y gystadleuaeth oedd datblygu’r Gymraeg a ‘Chymreictod’ mewn ysgolion. 

Mae llwyddiant yn y Gymraeg yn parhau mewn ysgolion eraill, wrth iddynt fabwysiadu’r ‘Siarter Iaith Cymraeg Campus’ –  Siarter Iaith Gymraeg sy’n darparu fframwaith ar gyfer ysgolion, gan eu cynorthwyo nhw i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg, yn ogystal ag ethos Cymreig, ym mhob agwedd ar draws yr ysgol. Mae modd i ysgolion gyflawni naill ai gwobrau efydd, arian neu aur am eu hymdrechion wrth ddilyn y fframwaith.

Mae plant Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert wedi cyflawni gwobr efydd y ‘Siarter Iaith Cymraeg Campus’ – mae’r plant bellach wedi’u sbarduno â chymhelliant a chyffro ynghylch syniadau ar gyfer datblygu’r Gymraeg ymhellach yn yr ysgol a gweithio tuag at y wobr arian. 

Mae Ysgol Bryn Castell, yr ysgol arbennig gyntaf yn rhanbarth Consortiwm Canolbarth y De i ennill gwobr efydd y ‘Siarter Iaith Cymraeg Campus’, wedi cael ei chydnabod am ei dwyieithrwydd a’i hethos Cymreig. Mae’r fframwaith ‘Siarter Iaith Cymraeg Campus’ wedi’i addasu i gynnwys y sector hwn gan rwydwaith o unigolion allweddol o ysgolion arbennig, dan arweiniad Andrew Morgan, cydlynydd Cymraeg yn Ysgol Bryn Castell. 

Mae Ysgol Maesteg, sy’n cael ei chydnabod am ei dysgu dan arweiniad y disgybl, yn canmol cymhwyster y Prince’s Trust.  Yn seiliedig ar ddysgu drwy brofiad, mae’r cynllun yn cynnig dull sy’n canolbwyntio ar y disgybl sy’n dathlu natur unigryw pob disgybl, gan eu hasesu ar eu sgiliau, galluoedd a chyfraniadau. Mae’r uchafbwyntiau ar gyfer eleni wedi cynnwys disgyblion yn creu siop cyfnewid gwisg ysgol. Roedd y disgyblion wedi cyrchu, golchi a smwddio gwisgoedd ysgol yn barod i gael eu dosbarthu drwy’r siop gymunedol. Mewn prosiect menter arall roedd disgyblion yn cymryd rhan mewn adeiladu offer tyfu planhigion a thwnneli polythen ar gyfer tyfu eu cynnyrch eu hunain, y gallant wedyn ei werthu i staff.

Mae Ysgol Brynteg wedi paratoi’r ffordd ar gyfer arddull newydd o addysgu a dysgu ar lefel ysgolion uwchradd. Mewn cydnabyddiaeth o anghenion amrywiol disgyblion, mae’r ysgol wedi sefydlu darpariaeth i ddysgwyr ym mlynyddoedd saith i naw - a enwir yn addas iawn yn ‘Dyfodol’, sy’n awgrymu ffordd newydd o weithredu. Mae Dyfodol yn cefnogi dysgwyr ym mhob un o’r grwpiau blwyddyn hyn sydd efallai’n ei chael hi’n anodd ymdopi gydag amserlen arferol ysgolion cyfun. Mae gan y dysgwyr brif ystafell ddosbarth lle maent yn cael eu haddysgu am y rhan fwyaf o’r wythnos - amgylchedd sy’n debyg i ystafell ddosbarth ysgol gynradd fel bod dysgwyr yn teimlo’n fwy cyfforddus, gan gael mynediad ar yr un pryd at brofiadau addysgu a dysgu uwchradd priodol.  Mae’r ddarpariaeth wedi profi i fod mor llwyddiannus fel bod yr ysgol yn bwriadu ymestyn y ddarpariaeth Dyfodol i Gyfnod Allweddol 4, i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae llythyr a ysgrifennwyd gan blant Ysgol Gynradd Llangrallo sy’n pwysleisio eu gobeithion ar gyfer y dyfodol mewn ymateb i fenter ‘Wythnos Werdd Fawr y Glymblaid Hinsawdd’, wedi cael ei rannu ledled y byd.  Mae’r llythyr, a gyflwynwyd i’r Parth Glas gan Dr Richard Unsworth o Project Seagrass, elusen gadwraeth forol ryngwladol a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn mynegi brwdfrydedd y plant dros yr amgylchedd. Yn ogystal â hyn, ffilmiodd Dr Unsworth flog byr am y llythyr, gan sicrhau bod eu llais cyfunol yn cael ei glywed ar draws amrywiaeth o lwyfannau cymdeithasol. Ymunodd y plant hefyd yn nigwyddiad Mynd yn Brin o Amser COP27, gan lofnodi neges, ynghyd â nifer o bobl eraill, yn gofyn am well addysg hinsawdd i bawb er mwyn galluogi gweithredu dros yr hinsawdd ar bob lefel – yn rhyngwladol, cenedlaethol, lleol, ac unigol.

Am gyfnod hyfryd a diddorol i’n hysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cyflawniadau arbennig hyn yn adlewyrchu’r gwaith cadarnhaol sy’n digwydd yn ddyddiol yn ein hysgolion.

Mae’n wych nodi’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei hymgorffori’n weithredol o fewn bywyd ysgol ac yna ym mywyd y gymuned.

Rydym yn falch o’n pobl ifanc ac mae’n fraint i’r athrawon gael y cyfle i gydnabod, croesawu ac annog eu hamrywiaeth drwy addasu’r amgylchedd dysgu’n briodol. Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y