Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgolion lleol yn helpu i enwi biniau solar, arallfydol, ym Mhorthcawl

Yn gynharach eleni, glaniodd pum ymwelydd estron ym Mhorthcawl er mwyn helpu i gadw'r ardal yn lân ac yn daclus, ac mae ysgolion lleol wedi helpu i roi enwau arallfydol ar y biniau pŵer solar hyn.

Ar y cyd â Cadwch Gymru'n Daclus, mae'r biniau pŵer solar wedi'u gorchuddio ac wedi'u lleoli ledled Porthcawl.

Cyn gwyliau'r haf, aeth pum ysgol gynradd leol ati i feddwl am enwau, ac roedd gofyn i Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Martyn Jones, ymgymryd â'r dasg anodd o ddewis ei ffefrynnau. 

  • Cynigodd Ysgol Gynradd West Park yr enw 'Ziggi' ar gyfer y bin ym Mae Rest.
  • Dewisodd Ysgol Gynradd Afon y Felin 'Comet y Bin Gofod' ar gyfer y bin sydd wedi'i leoli ar Bromenâd y Dwyrain.
  • Penderfynodd Ysgol y Ferch o'r Sgêr enwi'r bin ar y Promenâd yn 'Y Bin Hudol'.
  • Cynigodd Ysgol Gynradd Newton yr enw '‘Sgwish Solar' ar gyfer y bin sydd wedi'i leoli yn West Drive.
  • Dewisodd Ysgol Gynradd Corneli 'Solar Muncher' ar gyfer y bin ym Mharc Griffin.

Mae'r biniau technegol hyn yn ffordd liwgar a bywiog o annog ymwelwyr a thrigolion i ofalu am Borthcawl.

Mae'n wych gweld ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn prosiectau fel hyn, ac rwy'n gobeithio ei bod yn helpu i annog pobl i beidio â thaflu sbwriel, wrth hefyd addysgu plant ynghylch sut rydym yn mynd i'r afael â gwastraff ac ailgylchu.

Roedd dewis yr enwau buddugol yn eithaf heriol oherwydd bod pob cynnig yn hynod glyfar a chreadigol, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod y dewisiadau terfynol yn arallfydol - da iawn i bawb sydd ynghlwm â'r prosiect.

Y Cynghorydd Martyn Jones, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Oherwydd bod y biniau wedi'u pweru ag ynni solar, bydd swyddogion strydoedd glanach yn cael gwybod pan fyddant bron yn llawn, er mwyn eu gwagio'n rheolaidd.

Mae camau gorfodi eisoes ar waith er mwyn ceisio mynd i'r afael â sbwriel, ac os cewch eich dal yn gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus, gallech gael Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100 dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Dywedodd Pam Bacon, Rheolwr Rhanbarth Canolbarth y Gorllewin Cadwch Gymru'n Daclus: "Rydym yn falch bod pum bin solar, estron, newydd wedi symud i Borthcawl, dyma ffordd newydd o annog pawb i ailgylchu yn y ffordd gywir.

"Rydym wedi cael ychydig o hwyl gyda'r treial hwn, ac wedi ceisio meddwl am rywbeth ychydig yn wahanol a fydd yn cipio sylw pawb, gobeithio.

"Rydym wir yn gobeithio y byddant yn annog pobl o bob oedran i wneud y peth cywir."

Ariennir y fenter drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Chwilio A i Y